Beuno | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 6 g, c. 570 ![]() Teyrnas Powys ![]() |
Bu farw | 21 Ebrill 640 ![]() Clynnog Fawr ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Swydd | abad ![]() |
Dydd gŵyl | 20 Ebrill,21 Ebrill ![]() |
Tad | Bugi ![]() |
Sant oGymru oeddBeuno (bu farw c.642). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenyddclasClynnog Fawr yngNgwynedd.
Mae'r unig fuchedd sydd ar gael yn hwyr, yn dyddio o tua1350, ynLlyfr Ancr Llanddewi Brefi. Dywedir ei fod yn perthyn i deulu brenhinolMorgannwg, ac iddo gael ei eni ymMhowys, ar lanAfon Hafren. Cafodd ei addysgu yngNghaerwent cyn ymsefydlu ynAberriw. Yn ddiweddarach bu yngNgwyddelwern aThreffynnon, cyn ymsefydlu yng Nglynnog. Dywedir i'r tir i sefydlu'r clas yng Nghlynnog gael ei roi gan bennaeth o'r enw Gwyddeint, cefnder i freninGwynedd,Cadwallon ap Cadfan, oedd yn teyrnasu rhwng tua620 a633.
Dywedir fod y santesGwenffrewi yn nith iddo. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad a hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen a chleddyf. Gosododd Beuno ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a'i hadfywio.
Mae'r eglwysi a gysegrwyd i Sant Beuno yn cynnwysAberffraw aTrefdraeth arYnys Môn a Chlynnog,Penmorfa,Carnguwch,Pistyll, aBotwnnog yng Ngwynedd. YmMhowys maeLlanycil,Gwyddelwern,Aberriw aBetws Cydewain wedi eu cysegru iddo.
Mae ei ddydd gŵyl ar21 Ebrill.
Rhestr Wicidata: