Bettino Craxi |
---|
 Portread swyddogol o'r Prif Weinidog Bettino Craxi |
Ganwyd | 24 Chwefror 1934  Milan  |
---|
Bu farw | 19 Ionawr 2000  Hammamet  |
---|
Dinasyddiaeth | yr Eidal,Teyrnas yr Eidal  |
---|
Alma mater | - Prifysgol Milan
- Prifysgol Urbino

|
---|
Galwedigaeth | gwleidydd  |
---|
Swydd | Prif Weinidog yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Prif Weinidog yr Eidal, Y Gweinidog dros Gyllideb a Chynllunio Economaidd,Aelod Senedd Ewrop,Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal  |
---|
Prif ddylanwad | Sai Baba of Shirdi  |
---|
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd yr Eidal  |
---|
Tad | Vittorio Craxi  |
---|
Partner | Sandra Milo, Ania Pieroni  |
---|
Plant | Stefania Craxi, Bobo Craxi  |
---|
Perthnasau | Paolo Pillitteri  |
---|
Gwobr/au | Uwch Croes Urdd Siarl III, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri  |
---|
Chwaraeon |
---|
llofnod |
---|
 |
Gwleidydd o'rEidal oeddBenedetto "Bettino" Craxi (24 Chwefror1934 –19 Ionawr2000) a wasanaethodd ynBrif Weinidog yr Eidal o 1983 i 1987, ysosialydd cyntaf i fod yn bennaeth ar lywodraeth y wlad. ArweinioddBlaid Sosialaidd yr Eidal o 1976 i 1993.
Ganed ef ymMilan,Teyrnas yr Eidal. Cyfreithiwr a gwleidydd Sosialaidd oedd ei dad, a ymfudodd oSisili i ogledd y wlad. Yn 14 oed, gweithiodd Bettino ar ymgyrch aflwyddiannus ei dad yn yr etholiad i Siambr y Dirprwyon, ac ymaelododd â'r Mudiad Ieuenctid Sosialaidd yn 18 oed. Aeth i astudio'r gyfraith ymMhrifysgol Milan, ond gadawodd heb ennill ei radd, gan ymroddi'n gyfan gwbl i fyd gwleidyddiaeth.[1]
Esgynnai Craxi drwy rengoedd y Blaid Sosialaidd, a fe'i penodwyd yn aelod o'r pwyllgor canolog cenedlaethol ym 1957. Enillodd ei etholiad cyntaf, i gyngor dinesig Milan, ym 1960, a chafodd ei ddyrchafu'n ysgrifennydd y Blaid Sosialaidd ym Milan ac yn aelod o bwyllgor gweithredol cenedlaethol y blaid ym 1965.[1] Etholwyd Craxi i Siambr y Dirprwyon am y tro cyntaf ym 1968 fel un o gynrychiolwyr Milan, a châi ei ail-ethol i'r un sedd ym 1972, 1976, 1979, a 1983.
Daeth Craxi yn is-ysgrifennydd y Blaid Sosialaidd ym 1970, ac yn ysgrifennydd cyffredinol—ac felly arweinydd—ym 1976. Aeth ati i uno amryw ymbleidiau'r Sosialwyr ac i ymddiarddel â'r Blaid Gomiwnyddol, gan arddel polisïau cymedrol a symud y blaid i'r canol-chwith i'w gwneud yn fwy etholadwy. Dan arweiniad Craxi, ymunodd y Blaid Sosialaidd â phump o'r chwellywodraeth glymblaid a ddaeth i rym yn yr Eidal yn y cyfnod 1980–83. Yn Ebrill 1983, penderfynodd i dynnu cefnogaeth ei blaid yn ôl o'r Pentapartito—y glymblaid o bum plaid ganolog a arweiniwyd gan y Democratiaid Crisnogol (DC)—gan ysgogi etholiad cyffredinol. Ym Mehefin, y Sosialwyr oedd y drydedd blaid yn nhermau'r nifer o bleidleisiau a seddi seneddol, y tu ôl i'r DC a'r Comiwnyddion. Cytunodd y DC i newid arweinyddiaeth y Pentapartito yn rheolaidd i barchu pob aelod o'r glymblaid, ac felly gwahoddwyd Craxi i ffurfio'r llywodraeth. Cychwynnodd yn swydd y prif weinidog ar 4 Awst 1983, yn bennaeth ar gabinet newydd o'r Pentapartito.
Fel prif weinidog, mabwysiadodd Craxiddemocratiaeth gymdeithasol yn lle'r ffurfiau traddodiadol arsosialaeth, gan ragflaenu tueddiadau cymedrol yr adain chwith Ewropeaidd yn y 1990au, megisy Drydedd Ffordd. Er enghraifft, ceisiodd gostwngchwyddiant gyda'ibolisi cyllidol. O ranpolisi tramor, byddai'n ymlynu wrthUnol Daleithiau America, er iddo wrthod estraddodi Abu Abbas, terfysgwr a gyhuddwyd gan yr Unol Daleithiau o fod yn gyfrifol am gipio'r llong griwsAchille Lauro. Ail-ffurfiodd Craxi y llywodraeth glymblaid ym 1986, ond yn Ebrill 1987 collodd gefnogaeth y DC, ac ymddiswyddodd fel prif weinidog ar 18 Ebrill. Parhaodd i arwain y Sosialwyr, ac ymunodd â phedair llywodraeth glymbaid arall o 1987 i 1992.
Cyhuddwyd Craxi o lygredigaeth wleidyddol, ac ymddiswyddodd fel ysgrifennydd y Blaid Sosialaidd yn Chwefror 1993. Ni wadodd erioed ei fod wedi canlyn arian yn anghyfreithlon ar gyfer ei blaid, ond honnodd taw dyna oedd arfer pob plaid arall yn yr Eidal, a haerodd taw targedu gwleidyddol oedd i ganolbwyntio ar y Sosilwyr. Aeth Craxi yn alltud ar liwt ei hun ym 1993, cyn iddo gael ei ddedfrydu. Ymsefydlodd ynNhiwnisia am weddill ei oes, a ni ddychwelodd i'r Eidal. Bu farw ynAl-Hammamet, Tiwnisia, yn 65 oed.[2]
|
---|
Teyrnas yr Eidal (1861–1946) | | |
---|
Gweriniaeth yr Eidal (ers 1946) | |
---|
|