Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Belenus

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oBelenos)

Duw iachaol Celtaidd hynafol ywBelenus (Galeg:Belenos,Belinos). Addolid Belenus hydGorynys yr Eidal iYnysoedd Prydain, gyda'r brif gysegrfa ynAquileia. Drwyinterpretatio romana, cysylltir Belenus agApolon, er bod ganddo beth ymreolaeth yn ystodoes y Rhufeiniaid.[1][2]

Enw

[golygu |golygu cod]

Tystiolaeth

[golygu |golygu cod]

Mae'rtheonymBelenus (neuBelinus), sy'n ffurf Ladin ar yr AlegBelenos (neuBelinos), i'w weld mewn pum deg un arysgrif. Er bod y rhan fwyaf o'r arysgrifau hyn ynAquileia (Friuli, yr Eidal), prif le ei gwlt, ceir tystiolaeth o'i enw mewn llefydd ymhle y trigai siaradwyr ieithoedd Celtaidd, gan gynnwysGâl,Noricum,Illyria,Britain acIwerddon.[3]

Mae'r ieithyddBlanca María Prósper yn dadlau maiBelinos yw'r enw gwreiddiol siŵr o fod,[4] sydd hefyd i'w weld yn yr enwBelyn, sydd hefyd yn enw ar arweinydd Cymreig a fu farw yn 627 AD.[3] Mae amrywiadau eraill ar yr enw yn cynnwysBellinus ac efallaiBelus.[5] Efallai y bu'rGwyddelod a'rBrythoniaid hynafol yn ei adnabod ynBel,Beli, aBile.[6]

Etymoleg

[golygu |golygu cod]
Chwiliwch amBelenus
ynWiciadur.

Mae etymoleg y gairBelenos dal i fod yn aneglur. Cyfieithir ef yn draddodiadol yn 'y golau' neu 'y llachar', o'r bônProto-Indo-Ewropeg*bʰelH-, 'can, bân, gwyn'. Mae'r theori hwn yn boblogaidd oherwydd yinterpretatio romana oBelenos yn 'Apolon Galiaidd', sy'n dduw ag iddo briodoleddau'r haul.[7][8]

Epithedau

[golygu |golygu cod]

Yng Ngâl a Phrydain hynafol, cysylltwydApolon â'r haul ac iacháu.[9] Maesawl enw arall arno, gan gynnwysBelenus,Vindonnus,Grannus,Borvo,Maponos, aMoritasgos.[9][10]

Addolid y duw yn Apollo Belenus ynSainte-Sabine (Bourgogne), lle addolwyd ef gan bererinion sâl.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Schrijver, P. (1999). "On Henbane and Early European Narcotics" (yn en). zcph 51 (1): 17–45. doi:10.1515/zcph.1999.51.1.17. ISSN 0084-5302. https://www.degruyter.com/document/doi/10.1515/zcph.1999.51.1.17/html.
  2. Koch, John T., gol. (2006).Celtic culture: a historical encyclopedia. Santa Barbara, Calif.: ABC-CLIO.ISBN 978-1-85109-440-0.
  3. 3.03.1Birkhan 2006, t. 195.
  4. Prósper 2017, t. 258.
  5. MacKillop 2004, s.v.Belenus.
  6. Leeming 2005, t. 48.
  7. Schrijver 1999, tt. 24–25.
  8. Delamarre 2003, t. 72.
  9. 9.09.1Aldhouse-Green 1997, tt. 30–31.
  10. Nicole Jufer & Thierry Luginbühl (2001).Les dieux gaulois : répertoire des noms de divinités celtiques connus par l'épigraphie, les textes antiques et la toponymie. Paris: Editions Errance.ISBN 2-87772-200-7.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Belenus&oldid=13123045"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp