
Ychwanegiad atLyfr Daniel ac un oApocryffa'r Hen Destament ywBel a'r Ddraig. Cynhwysir ymMeiblau'rEglwys Gatholig Rufeinig a'rEglwys Uniongred Ddwyreiniol ar ffurf pennod 14 Llyfr Daniel. Weithiau caiff ei gynnwys ymhlith yr Apocryffa mewn BeiblauProtestannaidd, er enghraifftBeibl Saesneg y Brenin Iago. Nid yw'n ymddangos yny Beibl Hebraeg.
Traddodir dwy chwedl am y proffwydDaniel yn y testun hwn. Yn y stori gyntaf, mae Daniel yn dangos bod Bel, duwBabilon, yn dda i ddim drwy brofi bod y bwyd aoffrymwyd iddo yn cael ei fwyta mewn gwirionedd gan yr offeiriaid. Yn yr ail stori, sonir am Daniel yn lladd yddraig a anrhydeddir gan y Babiloniaid, a'i ddihangfa o wâlllewod a gafodd ei daflu ynddi yn gosb. Nod y ddwy chwedl yw i ddilornieilunaddoliaeth.
| Mae ganWicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |