Beic mynyddSeiclwr mynydd ar un o draciau Antur Stiniog,Blaenau Ffestiniog, yn ymarfer.
Maebeic yngerbyd dwy, neu weithiau dairolwyn. Caiff ei yrru gan y coesau a'r traed, felly mae'n ddull glân a chynaladwy o deithio. Yr hen enw arno oedd 'Deurodur' ('dau' a 'rotor').
Mae rhai'n beicio mewn rasys, rhai eraill am hwyl neu deithio o A i B.
Maeclipiau-troed a strapiau troed neupedalau di-glip yn helpu i gadw'r troed yn y safle cywir ar y bedal, ac yn galluogi i'r beiciwr dynnu yn ogystal â gwthio ar y pedalau—ond nid yw hyn heb ei beryglon, er enghraifft, gall y droed ddod yn sownd pan fydd angen ei roi ar y llawr i atal i'r beiciwr ddisgyn. Mae ategolion technegol yn cynnwysseiclgyfrifiaduron er mwyn mesur cyflymder, pellter ac amlder chylchdroadau pedalu. Mae ategolion eraill yn cynnwysgoleuadau, adlewyrchyddion,clo, drych, poteli dŵr achewyll iw dal, a chloch.[1]
Ers eu dyfeisio, mae beiciau wedi cael eu datblygu'n gyson, a'u haddasu ar gyfer defnydd penodol. Mae amrywiaethau helaeth yn y siapiau, ygeometreg, ymetel yr adeiladir y beic ohoni, ac yn y darnau a'r offer a ddefnyddir.
Beiciau rasio abeiciau mynydd ydy dau o'r mathau mwyaf cyffredin o feiciau, yn ogystal â beiciauhybrid sydd wedi'u dylunio yn arbennig ar gyfer defnydd cyffredinol megis siopa a chymudo. Maebeiciau sy'n plygu sy'n gyfleus ar gyfer teithio ardrafnidiaeth cyhoeddus a chymudo pan mae lle i gadw'r beic yn gyfyng. Mae beiciautandem ar gyfer dau berson.
Mae rhai beiciau hefyd wedi eu dylunio gyda ffynhonnell arall o bŵer, heblaw egni'r unigolyn. Mae beiciau trydanol yn defnyddiodynamo i gasglu egni pan mae'r unigolyn yn teithio'n gyflym, megis lawr allt, er mwyn rhoi cymorth wrth yrru'r beic fyny allt.
Gall gwisgohelmed beic leihau anaf os bydd y beisiwr mewn damwain, mae helmed ardystiedig yn angenrheidiol yn ôl cyfraith rhai awdordau megis ynAwstralia. Ond mae hyn yn bwnc dadleuol, gan fod ymchwil wedi dangos nad yw helmedau yn helpu ym mhob achos, ac bu lleihad sylweddol yn y nifer o feicwyr yn Awstalia yn dilyn cyflwyniad y gyfraith hon.
Caiff helmedau eu dosbarthu fel ategolyn[1] neu eitem o ddillad.[2]
Fel yng ngweddill gwledydd Prydain, ni chaniateir beicio ar y draffordd, ond gan mai dim ond dwy draffordd sydd yngNghymru nid yw hyn yn achosi gormod o broblemau. Wrth edrych ar fapiauOrdnance Survey gellir gweld y nifer helaeth o lwybrau lle gellir reidio beic gan y caniateir beicio arlwybrau march ar draws y wlad (ond nid arlwybrau troed).
Mae nifer o lwybrau penodol ar gyfer beiciau yng Nghymru. Adeiladwyd nifer gyda chymorth gan yr elusenSustrans. Mae hefyd lôn i feicwyr (a cherddwyr) ar yr henbont Hafren aPhont y Borth am ddim.