Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Batasuna

Oddi ar Wicipedia
Batasuna
Enghraifft o:plaid wleidyddol yng Ngwlad y Basg Edit this on Wikidata
IdiolegCenedlaetholdeb Basgaidd, annibyniaeth,sosialaeth, Asgell chwith Abertzale Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Ionawr 2013 Edit this on Wikidata
Rhan oAsgell chwith Abertzale, Basque National Liberation Movement Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1978 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganHerri Batasuna Edit this on Wikidata
PencadlysPamplona Edit this on Wikidata
Enw brodorolBatasuna Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen,Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Plaid wleidyddol o blaidcenedlaetholdeb Basgaidd oeddBatasuna (Basgeg, yn golygu "Undeb").

Sefydlwyd y blaid ym mis Ebrill1978 felHerri Batasuna(Undeb y Bobl), fel clymblaid o genedlaetholwyr adain-chwith, yn bennaf oEuskadiko Ezkerra, yn galw am bleidlais "na" yn refferendwm y flwyddyn honno ar gyfansoddiadSbaen. Yn Etholiad Cyffredinol 1979, enillodd 170,000 o bleidleisiau, 13% o'r bleidlais yn nhaleithiauGwlad y Basg. Cafodd ei ganlyniad gorau yn etholiad 1990, gyda 18.33% o'r bleidlais yngNghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg.

Rhwng 1998 a 2001, defnyddiai'r blaid yr enwEuskal Herritarrok (Ni ddinasyddion Basgaidd). Cyhoeddwyd Batasuna yn fudiad anghyfreithlon yn Sbaen yn2003, oherwydd cysylltiadau'r blaid agETA. Gwaharddwyd Batasuna gan lywodraeth Sbaen rhag cymryd rhan yn etholiadau Basgaidd 2005, ond daeth plaid newydd,Euskal Herrietako Alderdi Komunista (EHAK, "Plaid Gomiwnyddol y Rhanbarthau Basgaidd") i'r amlwg, gan ddatgan eu bod yn mabwysiadu rhaglen wleidyddol Batasunsa.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Batasuna&oldid=13420181"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp