Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Batafiaid

Oddi ar Wicipedia
Batafiaid
Enghraifft o:grŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathGermaniaid Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cynllwyn y Batafiaid dan Claudius Civilis ganRembrandt van Rijn

Llwyth Almaenaidd yn byw ger aberAfon Rhein yn yr hyn sydd nawr yn wladyr Iseldiroedd oedd yBatafiaid (LladinBatavi).

Ceir cyfeiriad atynt ganIŵl Cesar yn ei lyfrCommentarii de Bello Gallico, lle dywed eu bod yn byw ar ynys a ffurfiwyd lle mae Afon Rhein yn ymrannu yn nifer o afonydd, yn cynnwys yWaal a'rNederrijn (Rhein Isaf). Ceir cyfeiriadau pellach atynt gan yr haneswyr RhufeinigTacitus aSuetonius.

Roeddynt mewn cynghrair a'r Rhufeiniad yng nghanol y ganrif gyntaf, ac yn darparu milwyr cynorthwyol a gymerodd ran mewn llawer o ymgyrchoedd y Rhufeiniaid, yn cynnwys concwest Prydain o 43 OC ymlaen. Yn ystodBlwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC), gwrthryfelodd y Batafiaid yn erbyn Rhufain danGaius Julius Civilis. Gallasant ddinistrio rhai llengoedd Rhufeinig a pherswadio llengoedd eraill i ochri gyda hwy yn erbyn Rhufain. Wedi iVespasian ddod yn ymerawdwr, gyrrwyd byddin danQuintus Petillius Cerialis i roi terfyn ar y gwrthryfel.

Yn ystod cyfnodYmerodraeth yr Iseldiroedd, "Batavia" oedd enw'r ddinas sy'n awr ynJakarta, prifddinasIndonesia. Efallai fodBetuwe, ardal yn nhalaithGelderland yn yr Iseldiroedd, wedi ei enwi ar ôl y Batafiaid.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Batafiaid&oldid=12432518"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp