Ystyr y gair "Bantu" neu air tebyg mewn llawer o'r ieithoedd Bantu yw "pobl" neu "y bobl". Y farn gyffredinol ar hyn o bryd yw bod y Bantu wedi tarddu o ardal ger ffin dde-orllewinolNigeria aCamerŵn tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl (3000 CC). Dros gyfnod o ganrifoedd, bu lledaeniad graddol tua'r dwyrain a thua'r de. Roeddyny y bobl amaethyddol, ac yn raddol disodlwyd yrhelwyr-gasglwyr oedd yn byw yn Affrica i'r de o'rcyhydedd.
Yn y14eg a'r15g, datblygodd gwladwriaethau Bantu pwerus yn rhan ddeheuol Affrica, yn arbennig yn ardalafon Zambezi, lle adeiladwydSimbabwe Fawr gan y brenhinoeddMonomatapa.