Mae'r erthygl yma'n cyfeirio at Fangor, Gwynedd, gogledd Cymru. GwelerBangor (gwahaniaethu) am leoedd eraill a elwir yn Fangor.
Dinas achymuned yngNgwynedd,Cymru, ywBangor. Mae ganddi boblogaeth o tua 15,000 (neu tua 21,735 gan gynnwys ei chyrion). Bangor yw dinas hynaf Cymru.[1] MaePrifysgol Bangor, Pontio acEglwys Gadeiriol Bangor yn y ddinas. Bangor yw canolfanEsgobaeth Bangor a seddEsgob Bangor. Yr enw llawn tan yn ddiweddar oedd 'Bangor Fawr ynArfon'. Yn yr 20g, cafodd Bangor sefydliad pellach, gan gynnwys pencadlys gogleddol y BBC yng Nghymru ac yn ystod y rhyfel, o 1941 i 1944, symudodd adran adloniant ysgafn y BBC o Lundain i'r dre.[2]
Mae rhannau hynaf Bangor yn gorwedd yn nyffrynAfon Adda, sy'n wastadedd cyfyng rhwng dwy res o fryniau a red o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'r dyffryn yn agored i'r môr yn y dwyrain ar y bae bychan mewn braich agored oAfon Menai. Uwchlaw'r eglwys gadeiriol mae'r Stryd Fawr hir, gul, tra bod prif adeiladau'r coleg yn coronni'r bryn i'r gogledd. I'r de o'r ddinas mae bryn coediog, serthMynydd Bangor yn codi i 300 troedfedd. I'r gorllewin rhed Ffordd Caernarfon allan o'r ddinas dan y bont reilffordd ar hyd dyffryn Afon Adda; yma maeYsbyty Gwynedd, nifer o stadau tai a datblygiadau siopau newydd gan gynnwys archfarchnadoedd mawrion.
Rhwng Bangor acYnys Môn, mae dwy bont:Pont Y Borth aPhont Britannia. Mae Pont Britannia yn fawr, gyda dwy lefel ar ben ei gilydd, ar y lefel uchaf mae ffordd geir, ac ar y lefel isaf mae rheilffordd. Adeiladwyd Pont y Borth gan Telford; hon oedd bont grog fwya'r byd ar un cyfnod ac mae'n gul, oherwydd ei hoed, a does dim caniatâd pasio arno.
Eglwys gadeiriol BangorYn edrych draw o fynydd Bangor
Yn ôl traddodiad sefydloddDeiniol Sant fynachlog (clas) ar lannau Afon Adda yn y6g. Mae enw'r dref yn dod o'r gairbangor, sef "clawdd plethiedig" neu'r tir a amgeir ganddo (llan). Cafodd Deiniol ei gysegru'nesgob cyntaf Bangor ganDyfrig Sant (Dubricius).
Ymddengys fod y fynachlog a'r hen eglwys gadeiriol wedi parhau i sefyll hyd1071 nes iddynt gael eu llosgi gan yNormaniaid. Ailadeiladwyd yr eglwys gadeiriol tua1102 dan nawddGruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, ond iddi gael ei dinistrio unwaith yn rhagor gan luoedd y breninJohn o Loegr yn1210 pan ymosododd arWynedd. Claddwyd Gruffudd ap Cynan a'i ŵyrOwain Gwynedd yn y gadeirlan. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y13g.
Yn y13g, sefydlwyd mynachlog fymryn i'r gogledd o'r hen dref ganUrdd y Dominiciaid. Ym1557, sefydlwyd ysgol rad, sefYsgol Friars ar y safle hwnnw. Mae'r ysgol yn parhau i fodoli, er ei bod wedi symud safle sawl gwaith.
Yn raddol tyfodd tref fechan o gwmpas yr eglwys gadeiriol ond nid oedd yn llawer mwy na phentref tan ddiwedd y18g pan agorwydchwareli llechi Penrhyn ac adeiladwyd porthfa newydd ynAbercegin, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas. Gydag agoriad ffordd newyddThomas Telford (yrA5 heddiw) ac wedynPont y Borth yn1826 daeth Bangor yn ganolfan cludiant o bwys a datblygodd yn gyflym. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn1848. Yn1883 rhoddwyd siartr bwrdeistref i'r ddinas ac yn1885 adnabuwydColeg Prifysgol Gogledd Cymru â siartr brifysgol.
Rhan o Fangor o'r awyr yn ystod Gorymdaith Dros Annibyniaeth; 7 Medi 2023.
Yn y1960au sefydlwyd yma'r gell gyntaf oCymdeithas yr Iaith a arweiniodd y ffordd i weddill Cymru drwy greu ymgyrchoedd newydd dros y Gymraeg megis y frwydr dros Ysgol Uwchradd Gymraeg ym Mangor; yma hefyd yr argraffwyd copiau cyntaf oDafod y Ddraig.
Gwelodd Bangor ddatblygiadau mawr yn yr 20g gyda nifer o dai yn cael eu codi ar ymyl y ddinas, yn arbennig ar y bryn lle saif y coleg (Bangor Uchaf) ac ar gyrion y dref ym Maesgeirchen.
Mae gan Fangor ypier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i Afon Menai. Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas ei hun, yn ymylY Garth, sy'n rhoi ei enw iddo'n swyddogol er mai felPier Bangor y mae'n cael ei adnabod gan bawb bron. Bu bron iddo gael ei ddymchwel yn1974 oherwydd ei gyflwr ar y pryd. Ond gwrthwynebwyd y cynllun gan bobl leol ac erbyn hyn mae'r pier wedi cael ei drwsio (rhwng1982 a1988) ac yn adeilad rhestredig Graddfa II.
Yr ymgyrch dros ysgol uwchradd Gymraeg i Fangor (a Llandudno) oedd ymgyrch gyntafCymdeithas yr Iaith Gymraeg (1963); cangen Bangor oedd y gyntaf drwy Gymru.[4]
Mae gan Bangor orsaf arReilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu âChaergybi aChaer. Yn ogystal, Bangor yw prif echel rhwydwaith bysus y rhan yma o Wynedd, gyda gwasanaethau niferus i bentrefi lleol a lleoedd eraill. Mae gwasanaeth cyflym y Traws Cambria yn cysylltu Bangor aChaerdydd trwyAberystwyth.
↑Davies, Jenkins, Baines, Lynch, John, Nigel, Menna, Peredur (2008).The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 48.ISBN978-0-7083-1953-6.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.