Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Bangkok

Oddi ar Wicipedia
Bangkok
Arwyddairกรุงเทพฯ ดุจเทพสร้าง เมืองศูนย์กลางการปกครอง วัดวังงามเรืองรอง เมืองหลวงของประเทศไทย Edit this on Wikidata
Mathdinas, special administrative area of Thailand, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, dinas fawr, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, prifddinas cenedl, canolfan ariannol Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,676,648 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Ebrill 1782 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethChadchart Sittipunt Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tai Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBangkok Metropolitan Region, Central Thailand Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Tai Gwlad Tai
Arwynebedd1,568.737 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Chao Phraya Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNonthaburi, Samut Prakan, Pathum Thani, Nakhon Pathom, Samut Sakhon, Chachoengsao Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13.75°N 100.52°E Edit this on Wikidata
Cod post10### Edit this on Wikidata
TH-10 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolBangkok Metropolitan Administration Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholBangkok Metropolitan Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Bangkok Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethChadchart Sittipunt Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganBuddha Yodfa Chulaloke Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadBwdhaeth,Islam,Cristnogaeth,Hindŵaeth,Siciaeth Edit this on Wikidata

PrifddinasGwlad Tai a dinas fwyaf y wlad ywBangkok ("Cymorth – Sain" Ynganiad Thai ), a elwir ynKrung Thep Mahanakhon yn yr iaithThai (กรุงเทพฯ). Mae poblogaeth Bangkok oddeutu 5,676,648(31 Rhagfyr 2018)[1]; yn 2007, hi oedd 22ain ddinas fwyaf yn y byd.

Sefydlwyd y ddinas ar lan ddwyreiniolAfon Chao Phraya, gerGwlff Gwlad Tai. Arferai fod yn fan masnachu bychan geraber yr afon yn ystod cyfnod y Deyrnas Ayutthaya. Daeth y ddinas yn flaenllaw ynSiam (yr hen enw am Wlad Tai) a chafodd statws prifddinas ym1768 pan losgwydAyutthaya. Fodd bynnag, ni ddechreuodd y Deyrnas Rattanakosin presennol tan1782 pan symudwyd y brifddinas i ochr arall yr afon ganRama I ar ôl marwolaeth yBrenin Taksin. Bellach rhoddir yr enw ffurfiol "Phra Nakhon" ar y brifddinas Rattanakosin, gan gadw ffiniau hynafol yr ardal fetropolitanaidd ac mae'r enw "Bangkok" yn cynnwys yr ardaloedd ddinesig a adeiladwyd yn y18g. Mae gan y ddinas weinyddiaeth gyhoeddus a llywodraethwr.

Dros y ddau gan mlynedd ddiwethaf, mae Bangkok wedi datblygu i fod yn ganolfan wleidyddol, cymdeithasol ac economaidd, nid yn unig i Wlad Tai ond hefyd iIndo-Tsieina aDe-ddwryain Asia. Mae dylanwad y ddinas ar fyd y celfyddydau, gwleidyddiaeth, ffasiwn, addysg ac adloniant yn ogystal â bod yn ganolfan fusnes, ariannol a diwylliannol pwysig wedi gosod Bangkok ymysg dinasoedd mwyaf cosmopolitanaidd y byd.

Erbyn 2010, o ganlyniad i fudwyr answyddogol sy'n dod i'r ddinas o Ogledd-ddwyrain Gwlad Tai a gwledydd Asiaidd eraill, amcangyfrifir fod poblogaeth Bangkok Fwyaf yn agosach i 15 miliwn. Golyga hyn fod gan y wlad gymysgedd o genhedloedd yn trigo yno, yn hytrach na phoblogaeth homogenus Gwlad Tai, sydd wedi ychwanegu at naws gosmopolitanaidd y ddinas. Mae'r ddinas yn rhan o'r triongl hynod ddiwydiannol o ganol a dwyrain Gwlad Tai, sy'n ymestyn o Nakhon Ratchasima heibio i Bangkok i'r ardal ddiwydiannol ddwyreiniol.

MaeTalaith Bangkok yn ffinio â chwech talaith arall:Nonthaburi,Pathum Thani,Samut Prakan,Samut Sakhon aNakhon Pathom, a chysylltir y pum talaith yna yn cytrefu Ardal Fetropolitanaidd Bangkok.

Hanes

[golygu |golygu cod]

Krung Thep yw enw iaith y ddinas ers dwy ganrif a mwy. Nid hi oedd prifddinas wreiddiol Gwlad Tai; yn wir, tan y18g, fe'i lleolid ar lan gorllewinol yr afon ynThonburi ac yn nifer o leoedd eraill yn y Deyrnas cyn hynny. Erbyn hyn, mae'r ddwy ddinas wedi tyfu'n un a chyfeirir atynt fel Krung Thep.

Arferai tref Bang Kok (Thai: บางกอก ) fod yn ganolfan fasnachu bychan ac yn gymuned borthladdol ar lan orllewinol Afon Chao Phraya cyn iDeyrnas Ayutthaya (rhagflaenydd y Wlad Tai fodern a fodolai o1350 tan1767) gael ei sefydlu. Mae tarddiad yr enw'n ansicr. "Bang" yw'r enw Thai Ganolog am dref sydd wedi'i lleoli ar lan afon. Credir fod "Bangkok" yn deillio o naill ai Bang Kok, gyda "kok" yn enw a roddir ameirinen Java; neu Bang Koh, gyda "koh" yn golygu "ynys," sy'n gyfeiriad at dirwedd yr ardal a gerfiwyd gan afonydd a chamlesi.

Pan gwympodd y Deyrnas Ayutthaya i'rTeyrnas Byrmanaidd ym1767, sefydlodd y Brenin Taksin newydd ei brifddinas newydd yn yr hen ardal a adwaenid fel Bangkok, a galwyd yr ardal yn Thonburi. Pan ddaeth teyrnasiad Taksin i ben ym1782, ail-grëodd y Brenin Buddha Yodfa Chulaloke y brifddinas ar lannau dwyreiniol yr afon gan roi enw seremonïol ar y ddinas, enw a fyrhawyd i'w enw presennol sef Krung Thep Maha Nakhon. Fodd bynnag, etifeddodd y ddinas newydd yr enw Bangkok hefyd, enw a barhaodd i gael ei ddefnyddio gan estroniaid er mwyn cyfeirio at y ddinas yn ei chyfanrwydd. Daeth Bangkok yn yr enw Saesneg swyddogol, er yng Ngwlad Tai, mae'r enw'n cyfeirio at yr hen ardal ar lannau gorllewinol yr afon. Ers hynny, mae'r ddinas wedi'i moderneiddio'n llwyr ac wedi newid llawer, gan gynnwys cyflwyno trafnidiaeth a seilwaith cyfleusdod yn ystod teyrnasiad y Brenin Mongkut a'r Brenin Chulalongkorn, ac yn fuan iawn datblygodd y ddinas yn ganolbwynt economaidd i Wlad Tai.

Yn raddol, ehangodd economi Bangkok trwyfasnach ryngwladol, yn gyntaf gydaTsieina, yna gyda masnachwyrGorllewin Ewrop yn y19g. Fel prifddinas, Bangkok oedd dechrau a diwedd y broses o foderneiddio Siam wrth iddo wynebu pwysau gan bwerau'r Gorllewin ar ddiwedd y 19g. Yn ystod teyrnasiadau y Brenhinoedd Mongkut (Rama IV, 1851-68) a Chulalongkorn (Rama V, 1868–1910) cyflwynwyd yrinjan stêm, y wasg argraffu, trafnidiaeth rheilffyrdd a gwasanaethau megis trydan a systemau dwr yn y ddinas, ynghyd ag addysg ffurfiol a gofal iechyd. Daeth Bangkok yn ganolbwynt i frwydrau am bŵer - rhwng gwahanol garfannau o'r elit milwrol a gwleidyddol wrth i'r wlad ddileu eubrenhiniaeth yn llwyr, ym 1932.[2][2]

Wrth i Wlad Thai gynghreirio âJapan yn yrAil Ryfel Byd, bomiwyd Bangkok yn ddidrugaredd gan y Cynghreiriaid, ond tyfodd yn gyflym yn y cyfnod ar ôl y rhyfel o ganlyniad i gymorthUnol Daleithiau America a buddsoddiad a dalwyd amdano gan y llywodraeth. Fe wnaeth rôl Bangkok fel cyrchfan Ymchwil a Datblygu milwrol yr Unol Daleithiau hybu ei ddiwydiant twristiaeth yn ogystal â’i sefydlu’n gadarn fel cyrchfantwristiaeth rhyw. Arweiniodd datblygiad trefol anghymesur at anghydraddoldebau incwm cynyddol a mudo o ardaloedd gwledig i mewn i Bangkok; cynyddodd ei phoblogaeth o 1.8 miliwn i 3 miliwn yn y1960au.

Sefydlwyd gweinyddiaeth y ddinas gyntaf gan y Brenin Chulalongkorn ym 1906, gyda sefydlu Monthon Krung Thep Phra Maha Nakhon (มณฑล กรุงเทพ พระ มหานคร) fel israniad cenedlaethol. Ym 1915, fe'i rhannwyd yn sawl talaith ac mae ei ffiniau gweinyddol wedi newid ymhellach ers hynny. Cafodd ffurf bresennol y ddinas ei chreu ym 1972 pan greewyd Gweinyddiaeth Fetropolitan Bangkok (BMA), yn dilyn uno Talaith Phra Nakhon ar lan ddwyreiniol Talaith Chao Phraya a Thonburi ar y gorllewin yn ystod y flwyddyn flaenorol.[3]

Bangkok heddiw

[golygu |golygu cod]
Bangkok gyda'r nos

Mae Bangkok wedi tyfu'n gyflym, yn economaidd ac yn ddiwylliannol ac mae bellach yn un o ganolfannau pwysicaf De-ddwyrainAsia. Mae Sefydliad Meterologaidd y Byd wedi galw Bangkok yn ddinas fawr boethaf y blaned. Ar ben hyn, Bangkok yw un o atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd y byd a'r ddinas gyfoethocaf a mwyaf poblog yng Ngwlad Tai. Daw yn yr ail safle ar hugain o ran dinasoedd mwyaf poblog y byd.

Geirdarddiad

[golygu |golygu cod]

Mae tarddiad yr enw 'Bangkok' (บางกอก;"Cymorth – Sain" Ynganiad Thai ) yn ansicr. Gair Thai yw 'Bang' sy'n golygu 'pentref ar nant', ac efallai fod yr enw wedi deillio o 'Bang Ko' (บาง เกาะ), gyda 'ko' yn golygu 'ynys', sef disgrifiad o dirwedd ddyfrllyd y ddinas.[4][5] Mae damcaniaeth arall yn awgrymu ei fod wedi'i fyrhau o 'Bang Makok' (บาง มะกอก), 'makok' yw'r enw lleol arElaeocarpus hygrophilus, planhigyn sy'n dwyn ffrwythau tebyg i olewydd. Cefnogir hyn gan yr hen enw 'Wat Arun', teml hanesyddol yn yr ardal, a arferai gael ei galw'n "Wat Makok".[6]

Enwogion

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. http://stat.dopa.go.th/stat/statnew/statTDD/views/showDistrictData.php?statType=1&year=61&rcode=10.
  2. 2.02.1Baker & Pongpaichit 2005, tt. 37–41, 45, 52–71, 149–150, 162, 199–204.
  3. Committee for the Rattanakosin Bicentennial Celebration (1982).จดหมายเหตุการอนุรักษ์กรุงรัตนโกสินทร์ [Rattanakosin City conservation archives]. Department of Fine Arts. Reproduced in"กว่าจะมาเป็นกรุงเทพฯ" [The path to become Bangkok]. BMA Data Center. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd1 Awst 2012.
  4. พจนานุกรม ฉบับราชบัณฑิตยสถาน พ.ศ. ๒๕๔๒ [Royal Institute Dictionary, B.E. 1999 (online edition)] (yn Thai). Royal Institute. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 12 Tachwedd 2013. Cyrchwyd12 Medi 2012.
  5. Chandrashtitya, Tipawan; Matungka, Chiraporn.ประวัติเมืองธนบุรี [History of Thonburi City].Arts & Cultural Office (yn Thai). Dhonburi Rajabhat University. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 13 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd11 Rhagfyr 2011.
  6. Wongthes, Sujit (2012).กรุงเทพฯ มาจากไหน? [Bangkok: A Historical Background] (yn Thai). Bangkok: Dream Catcher. t. 37.ISBN 9786167686004. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 17 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd9 Mehefin 2013.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Bangkok&oldid=14313636"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp