1:2 Baner forol Gaiana, cymesuredd, 2:1Baner Gaiana mewn parêd Caribî,Toronto
Bubaner Gaiana (Guyana) yn faner swyddogol y wlad yma ynNe America ers mis Mai 1966 pan ddaeth y wlad yn annibynnol oddi ar yDeyrnas Unedig. Y llysenw ar y faner ywThe Golden Arrowhead.
Dyluniwyd y faner gan Whitney Smith, fecsolegydd o America. Roedd ei gynllun yn wreiddiol heb y ffinio du a gwyn a ychwanegwyd yn hwyrach ar awgrymiad yCollege of Arms, corffherodraeth Lloegr. Gwnaethpwyd hyn er mwyn cydymffurfio âRheol Tintur sy'n nodi bod "lliw ar liw" (yn achos saeth werdd ar gefndir goch yn achos y dyluniad wreiddiol, yn anodd ei weld a'i adnabod o bellter. Cymesuredd y faner yw 3:5.
Fel rhan o Ymerodraeth Prydain, roedd y faner a ddefnyddiwyd i gynrychioli Gaiana yr un cynllun bras â threfediaethau eraill yr ymeroedraeth - llain las, gyda banerJac yr Undeb yn ycanton ac arfbais Gaiana mewn cylch ar ochr canol dde y faner. Defnyddiwyd fersiwn goch answyddogol ar y môr (gan ddynwared lliman goch, 'Red Ensign' Prydain).[1] Lansiwyd y faner gyntaf yma yn 1875 gan addasu yn 1906 ac 1955. Fel gydag holl baneri yn y traddodiad Brydeinig, y cymesuredd oedd 1:2. Lluniwyd hefyd faner answyddogol ar gyfer Gweriniaeth Gaiana rhwng 1997-1904.
Baner Gaina Brydeinig, 1875 tan 1906
Baner Gweriniaeth Gaiana Annibynnol, 1887 tan 1904
Baner Gaiana Brydeinig, 1906 tan 1955, diddymwyd y disg wen yn 1919