Cyn dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol, diplomydd yngNgweinyddiaeth Materion Tramor De Corea ac yn y Cenhedloedd Unedig oedd Ban. Ymunodd â'rgwasanaeth diplomyddol y flwyddyn y graddiodd o brifysgol, a derbyniodd ei swydd gyntaf ynDelhi Newydd. Yn y weinyddiaeth dramor enillodd enw da am fod yn ddiymhongar a chymwys wrth ei waith.
Gweinidog Tramor De Corea o Ionawr 2004 i Dachwedd 2006 oedd Ban. Yn Chwefror 2006 dechreuodd ymgyrchu am swydd yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Yn gychwynnol ni ystyrid Ban yn gystadleuydd oedd yn debygol o ennill y swydd. Ond fel gweinidog tramor De Corea llwyddodd i deithio i bob un o aelod-wladwriaethauCyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gweithred a'i roddodd ar flaen y ras am y swydd.