Mae hunaniaeth y Balcanau yn cael ei ffurfio gan ei lleoliad daearyddol; saif ar groesffordd hanesyddol sydd wedi bod yn dyst i sawl pobl a diwylliannau. Mae wedi bod yn fan cyfarfod i rhannauLladin aGroeg yr Ymerodraeth Rufeinig ac yn ffin rhyngddynt, yn gyrchfan i fewnlifiad anferth o bobloeddSlafpaganaidd, yn fan cyfarfodCristnogaethOrllewinol acUniongred, yn ogystal â bod yn fan cyfarfod iIslam a Christnogaeth. Gwelai yn ogystal nifer fawr o ffoaduriaidIddewig yn ffoi'rChwil-lys. Mae nifer uchel oRomani yn byw yno hefyd.
Mewn canlyniad i hyn oll mae'r Balcanau heddiw yn rhanbarth o amrywiaeth ethno-ieithyddol sylweddol, ac yn gartref i sawl iaithSlafig,Romáwns, aTwrcaidd, yn ogystal â'riaith Roeg,Albaneg, ac ieithoedd eraill. Yn y cyfnodau cynhanesyddol ac egin-hanesyddol mae nifer o grwpiau ethnig eraill â'i hieithoedd unigryw eu hunain, wedi byw yn y rhanbarth yn ogystal, yn cynnwys yCeltiaid (e.e. yGalatiaid), yrIlyriaid, yrAvariaid, yVlachiaid, yGermaniaid a sawl llwyth Germanaidd arall.
Prif grefyddau'r rhanbarth ywCristnogaeth (Uniongred Dwyreiniol a Chatholig) acIslam. Ymarferir sawl traddodiad o'r ddwy ffydd, ac mae gan pob un o'r gwledydd Uniongred ei heglwys genedlaethol eu hunain.
Cristnogaeth Uniongred Ddwyreiniol yw pryf grefydd y gwledydd canlynol:
Banac, Ivo. 'Historiography of the Countries of Eastern Europe: Yugoslavia',American Historical Review, v 97 #4 (Hydref 1992), 1084-1104.
Banac, Ivo.The National Question in Yugoslavia: Origins, History, Politics. Cornell University Press, 1984.
Carter, Francis W., gol.An Historical Geography of the Balkans. Academic Press, 1977.
Dvornik, Francis.The Slavs in European History and Civilization. Rutgers University Press, 1962.
Fine, John V. A., Jr.The Early Medieval Balkans: A Critical Survey from the Sixth to the Late Twelfth Century [1983];The Late Medieval Balkans: A Critical Survey from the Late Twelfth Century to the Ottoman Conquest. Ann Arbor: University of Michigan Press, [1987].
Jelavich, Barbara.History of the Balkans, 2 gyf. Cambridge University Press, [1983].
Jelavich, Charles, a Jelavich, Barbara, gol.The Balkans in Transition: Essays on the Development of Balkan Life and Politics since the Eighteenth Century. University of California Press, 1963.
Király, Béla K., gol.East Central European Society in the Era of Revolutions, 1775-1856. 1984
Mazower, Mark,The Balkans: A Short History, 2000
Traian Stoianovich,Balkan Worlds: The First and Last Europe 1994.