Ceir nifer o borthladdoedd pwysig yma, yn enwedigBilbo,Pasajes aBurdeos. Yr unig afon fawr sy'n llifo iddo ywAfon Garonne; ymhlith yr afonydd eraill maeAfon Nervión acAfon Bidasoa, sy'n ffurfio'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen.
Mae'r bae yn ddwfn ac yn tueddol i gael tywydd mawr ac felly'n gallu bod yn beryglus i longau. Mae'n bysgodfa pwysig: ymhlith y pysgod masnachol a ddelir yno ceirbrwyniaid,cod,tiwna asardîns.