Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Bae Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Bae Penrhyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.31°N 3.77°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH822812 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Ardal a phentref fawr yngnghymunedLlandudno,bwrdeistref sirol Conwy,Cymru, ywBae Penrhyn (Saesneg:Penrhyn Bay).[1] Saif ar yr arfordir gerllawRhiwledyn, rhwngLlandudno aLlandrillo-yn-Rhos. Mae'n rhan o blwyf eglwysigLlanrhos. Yn wreiddiol, Penrhyn oedd enw'r graig i'r dwyrain oFae Llandudno (a elwir heddiw yn yTrwyn y Fuwch neuLittle Orme), ond wrth i'r lle ddatblygu daeth yr enw "Bae Penrhyn" i olygu'r datblygiadiadau newydd a'r bae sydd i'r dwyrain o Drwyn y Fuwch (Gogarth Fach).[2] Gyferbyn iddo (hynny yw, i'r dwyrain o Fae Penrhyn) saif Ochr y Penrhyn (Saesneg:Penrhynside).[3]

Bae Penrhyn gyda'r pentref

Yr adeilad hynaf yma ywHen Neuadd Penrhyn, cartref y teulu Pugh. Roedd y teulu yma ynreciwsantiaid Catholig yn niwedd y16g. Ar 14 Ebrill1587, cafwyd hyd i wasg gudd ar gyfer llenyddiaethGatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y TadWilliam Davies i argraffuY Drych Cristianogawl (ganRobert Gwyn neuGruffydd Robert), y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yngNghymru. Llochesant yno i geisio dianc yrerledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd ganElisabeth I o Loegr ym Mai1586. Ceir adfeilioncapel canoloesol cysegredig i'r 'Forwyn Fair o'r Penrhyn', wrth lethrau isaf Rhiwledyn ger Hen Neuadd Penrhyn; rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio ym 1930.

Ceir yma eglwys, tafarn, llyfrgell a nifer o siopau. Tyfodd Bae Penrhyn yn sylweddol yn ystod yr20g, pan ddaeth yn faesdref i Landudno.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021
  2. Gwefan Llên NaturArchifwyd 2016-03-14 yn yPeiriant Wayback; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012
  3. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan,Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), tt. 373, 214
gw  sg  go
Trefi a phentrefiConwy

Trefi
Abergele  ·Bae Colwyn  ·Betws-y-Coed  ·Conwy  ·Cyffordd Llandudno  ·Degannwy  ·Hen Golwyn  ·Llandudno  ·Llanfairfechan  ·Llanrwst  ·Penmaenmawr  ·Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel  ·Bae Penrhyn  ·Betws-yn-Rhos  ·Bryn-y-maen  ·Bylchau  ·Caerhun  ·Capel Curig  ·Capel Garmon  ·Cefn Berain  ·Cefn-brith  ·Cerrigydrudion  ·Craig-y-don  ·Cwm Penmachno  ·Dawn  ·Dolgarrog  ·Dolwen  ·Dolwyddelan  ·Dwygyfylchi  ·Eglwys-bach  ·Esgyryn  ·Gellioedd  ·Glanwydden  ·Glasfryn  ·Groes  ·Gwytherin  ·Gyffin  ·Henryd  ·Llanbedr-y-cennin  ·Llandrillo-yn-Rhos  ·Llanddoged  ·Llanddulas  ·Llanefydd  ·Llanelian-yn-Rhos  ·Llanfair Talhaearn  ·Llanfihangel Glyn Myfyr  ·Llangernyw  ·Llangwm  ·Llangystennin  ·Llanrhos  ·Llanrhychwyn  ·Llan Sain Siôr  ·Llansanffraid Glan Conwy  ·Llansannan  ·Llysfaen  ·Maenan  ·Y Maerdy  ·Melin-y-coed  ·Mochdre  ·Nebo  ·Pandy Tudur  ·Penmachno  ·Pensarn  ·Pentrefelin  ·Pentrefoelas  ·Pentre-llyn-cymmer  ·Pentre Tafarnyfedw  ·Pydew  ·Rowen  ·Rhydlydan  ·Rhyd-y-foel  ·Tal-y-bont  ·Tal-y-cafn  ·Trefriw  ·Tyn-y-groes  ·Ysbyty Ifan

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Bae_Penrhyn&oldid=13087553"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp