Anhwylder ywawtistiaeth, lle ceir anawsterau gyda rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu, ymddygiad cyfyngedig ac ailadroddus a phatrymau ymddygiadannormal.[1] Mae'r symtomau cynharaf yn dod i'r amlwg cyn bod y plentyn yn dair oed, gan ddatblygu'n raddol.[2]
Canllaw gan Lywodraeth Cymru: Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth
Mae awtistiaeth yn gysylltiedig â chyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol.[3] Ymhlith y ffactorau a alla gynyddu'r risg yn ystodbeichiogrwydd mae heintiau penodol, felrwbela (neu'r Frech Almaenig),tocsinau gan gynnwys asid falproig,alcohol,cocên,plaladdwyr,plwm, allygredd aer, cyfyngiad twf y ffetws, a chlefydau hunanimiwn.[4]
Mae awtistiaeth yn effeithio ar brosesu gwybodaeth yn yrymennydd a sut mae celloedd nerfol a'u synapsau yn cysylltu ac yn trefnu; ni ddeellir yn iawn sut mae hyn yn digwydd.[5]
Mae'rDiagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM-5) yn cyfuno awtistiaeth gydag anhwylderau llai difrifol, megisSyndrom Asperger, o fewn diagnosis o'r sbectrwm ASD (autism spectrum disorder).[6]
Gall newid ymddygiad cynar neu therapi lleferydd helpu plant ag awtistiaeth i ennill sgiliau hunanofal, cymdeithasol a chyfathrebu. Er nad oes iachâd o'r clefyd ar hyn o bryd, maae na achosion o blant sydd wedi gwella. Ni all rhai oedolion awtistig fyw'n annibynnol. Mae diwylliant awtistig wedi datblygu, gyda rhai unigolion yn ceisio iachâd ac eraill yn credu y dylid derbyn awtistiaeth fel gwahaniaeth i gael ei dderbyn gan gydeithas yn hytrach na'i wella.[7][8]
↑"Diagnosis of autism spectrum disorders in the first 3 years of life". Nat Clin Pract Neurol4 (3): 138–147. 2008. doi:10.1038/ncpneuro0731. PMID18253102.
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnciechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.
Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!