Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Awstria

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oAwstriaid)
Awstria
Republik Österreich
ArwyddairCyrraedd ac Adfer Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran,gweriniaeth, gwladwriaeth gyfreithiol,gwlad dirgaeedig,gwladwriaeth, gwladwriaeth olynol,gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôldwyrain Edit this on Wikidata
PrifddinasFienna Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,979,894 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Tachwedd 1918 Edit this on Wikidata
AnthemLand der Berge, Land am Strome Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlexander Schallenberg Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg, Iaith Arwyddo Awstria Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanolbarth Ewrop,yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd83,878.99 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
GerllawBodensee, Neusiedl Lake,Afon Rhein,Afon Donaw,Afon Inn,Afon Salzach, Thaya, Morava Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydayr Eidal,Liechtenstein,Y Swistir,Tsiecia,Hwngari,Slofacia,Slofenia,yr Almaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48°N 14°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ffederal Awstria Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Awstria Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Awstria Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAlexander Van der Bellen Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Canghellor Ffederal Awstria Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlexander Schallenberg Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$480,368 million, $471,400 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.48 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.916 Edit this on Wikidata

Gwlad agweriniaeth yng nghanolbarthEwrop ywGweriniaeth Awstria (Almaeneg:"Cymorth – Sain" Republik Österreich ) neuOstria. Mae'n ffinio âLiechtenstein a'rSwistir i'r gorllewin,Yr Eidal aSlofenia i'r de,Hwngari aSlofacia i'r dwyrain a'rAlmaen a'rWeriniaeth Tsiec i'r gogledd. Gwladtirgaeedig yw Awstria, felly nid oes ganddi arfordir.

Fe'i crëwyd yn gynnar yn y19g ac mae heddiw'n cynnwys naw talaith ffederal (sef yBundesländer), ac un ohonynt ywFienna, prifddinas Awstria a'r ddinas fwyaf.Mae'r Almaen yn ffinio â'r gogledd-orllewin, yWeriniaeth Tsiec i'r gogledd,Slofacia i'r gogledd-ddwyrain,Hwngari i'r dwyrain,Slofenia a'rEidal i'r de, a'rSwistir aLiechtenstein i'r gorllewin. Arwynebedd Awstria yw 83,879 km sg (32,386 mi sg) ac mae ganddi boblogaeth o o dros 8 miliwn o bobl. Er maiAlmaenegyw iaith swyddogol y wlad,[1] mae llawer o Awstriaid yn cyfathrebu'n anffurfiol mewn amrywiaeth o dafodieithoeddBafaria.[2]

Geirdarddiad

[golygu |golygu cod]

Yr orgraff frodorol, heddiw, ywÖsterreich ('y parth dwyreiniol'); yr hen enw oeddOstarrîchi. 'W-sty-aich' yw'r ynganiad ffonetig, brodorol:"Cymorth – Sain" ynganiad . Mae'r sillafiad Cymraeg, felly, - gyda'i 'Aw' yn hytrach nag 'O' - yn dilyn y sillafiad Seisnig o'r gair, a'r ynganiad Cymraeg, hefyd yn dilyn yr ynganiad Seisnig, yn hytrach na'r enw brodorol.[3] Mae'r sillafiad Cymraeg (Awstria) i'w ganfod yn gyntaf yn 1757.[4]

Ymddangosodd yn gyntaf mewn dogfen a elwir yn"Ostarrîchi document" yn 996.[5][6] Mae'n debyg bod y gair hwn yn gyfieithiad oLladin CanoloesolMarchia orientalis i dafodiaith leol Bafaria. Roedd Awstria yn rhan o Bafaria a grëwyd ym 976.Lladiniad o'r enw Almaeneg yw'r gair "Awstria" ac fe'i cofnodwyd gyntaf yn y12g.[7]

Hanes

[golygu |golygu cod]

Daeth Awstria i'r amlwg i ddechrau fel tir mers (rhan o wlad ar y ffin) tua'r flwyddyn 976 a datblygodd ynddugiaeth ac yna'n archddugiaeth. Yn yr 16g, dechreuodd Awstria wasanaethu fel calonBrenhiniaeth Habsburg (undeb o sawl gwlad / brenin) a changen iauteulu Habsburg - un o'r llinach frenhinol fwyaf dylanwadol Ewrop. Fel archddugiaeth, roedd yn brif gydran a chanolfan weinyddol yrYmerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Yn gynnar yn y 19g, sefydlodd Awstriaei hymerodraeth ei hun, a ddaeth yn bwer cryf ac yn flaenllaw oddi fewn iGydffederasiwn yr Almaen, ond a ddilynodd ei chwrs ei hun yn annibynnol ar daleithiau eraill yr Almaen yn dilyn ei threchu ynRhyfel Austro-Prwsia ym 1866. Yn 1867, mewn cyfaddawd â Hwngari, sefydlwydBrenhiniaeth Ddeuol Awstria-Hwngari.

Bu Awstria'n rhan o'rRhyfel Byd Cyntaf o dan yr YmerawdwrFranz Joseph I yn dilyn llofruddiaeth yrArchddug Ferdinand, olynydd tybiedig gorsedd Austro-Hwngari. Ar ôl trechu a diddymu'r Frenhiniaeth, sefydlwydGweriniaeth yr Almaen-Awstria gyda'r bwriad o undeb â'rAlmaen, ond nid oedd yPwerau Cynghreiriol yn cefnogi'r wladwriaeth newydd ac pharhaodd heb heb ei chydnabod.

Yn 1919 daethGweriniaeth Gyntaf Awstria yn olynydd cyfreithiol Awstria. Ym 1938, unoddAdolf Hitler, (a anwyd yn Awstria), a ddaeth ynGanghellor Reich yr Almaen, Awstria a'r Almaen drwy yrAnschluss (rhyw fath o ddeddf uno). Yn dilyn trechu'rAlmaen Natsïaidd ym 1945 a chyfnod estynedig o feddiannaeth y Cynghreiriaid, ailsefydlwyd Awstria fel cenedl ddemocrataidd sofran a hunan-lywodraethol a elwir yr Ail Weriniaeth.

Democratiaeth gynrychioliadol seneddol yw Awstria gydag Arlywydd Ffederal wedi'i ethol yn uniongyrchol fel pennaeth y wladwriaeth a Changhellor fel pennaeth y llywodraeth ffederal.

Mae prifardaloedd trefol Awstria yn cynnwysFienna,Graz,Linz,Salzburg acInnsbruck. Mae Awstria yn gyson yn yr 20 gwlad gyfoethocaf yn y byd yn ôl termau CMC y pen. Ceir yma safon byw uchel ac yn 2018 roedd yn yr 20fed safle yn y byd am eiMynegai Datblygiad Dynol. Mae Fienna'n gyson ar y brig yn rhyngwladol ar ddangosyddion ansawdd bywyd.[8]

Datganodd yr Ail Weriniaeth ei niwtraliaeth parhaol mewn materion gwleidyddol tramor yn 1955. Mae Awstria wedi bod yn aelod o'rCenhedloedd Unedig er 1955 ac ymunodd â'rUndeb Ewropeaidd ym 1995.[9][10] Mae'n gartref i'rOSCE acOPEC ac mae'n aelod sefydlol o'r OECD acInterpol.[11] Llofnododd AwstriaGytundeb Schengen hefyd ym 1995,[12] sy'n caniatáu symud o un wlad Ewropeaidd i'r llall heb wirio pasbortau, a mabwysiadodd yr ewro ym 1999.[13]

Cafodd y tir yng Nghanol Ewrop sydd bellach yn Awstria ei ymgartrefu gan amryw o lwythauCeltaidd, gan gynnwys ydeyrnas Geltaidd Noricum. Yn ddiweddarach fe'i cymerwyd hi drosodd gan yrYmerodraeth Rufeinig a'i gwneud yn dalaith. Roedd Petronell- Carnuntum heddiw yn nwyrain Awstria yn wersyll byddin pwysig a drodd yn brifddinas yn yr hyn a elwir yn dalaith Pannonia Uchaf. Roedd Carnuntum yn gartref i 50,000 o bobl am bron i 400 mlynedd.[14]

Canol oesoedd

[golygu |golygu cod]

Ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, goresgynnwyd yr ardal gan yBafariaid Celtaidd,Slafiaid ac Avars.[15]Gorchfygodd Charlemagne, Brenin yFfranciaid, yr ardal yn OC 788, gan annog gwladychu, a chyflwynodd Gristnogaeth.[15] Daeth yr ardaloedd craidd sydd bellach yn cwmpasu Awstria dan berchnogaeth y Teulu Babenberg. Gelwid yr ardal ynmarchia Orientalis ('y ffin ddwyreiniol') ac fe'i rhoddwyd i Leopold o Babenberg ym 976.[16]

'Gwener Willendorf', 28,000 i 25,000 CC. Amgueddfa Hanes Naturiol Fienna

Gwleidyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Adeilad Senedd Awstria yn Fienna

MaeSenedd Awstria wedi'i lleoli ynFienna, prifddinas a dinas fwyaf poblog y wlad. Daeth Awstria'nweriniaeth ddemocrataidd gynrychioliadol ffederal trwy Gyfansoddiad Ffederal 1920. Mae system wleidyddol yr Ail Weriniaeth gyda'i naw talaith yn seiliedig ar gyfansoddiad 1920, a ddiwygiwyd ym 1929, ac a addaswyd ar 1 Mai 1945.[17]

Pennaeth y wladwriaeth yw'r Arlywydd Ffederal (Bundespräsident), sy'n cael ei ethol yn uniongyrchol trwy bleidlais. Pennaeth y Llywodraeth Ffederal yw'r Canghellor Ffederal (yBundeskanzler), sy'n cael ei ddewis gan yr Arlywydd a'i dasg o ffurfio llywodraeth yn seiliedig ar gyfansoddiad pleidiol tŷ isaf y senedd.

Gellir diswyddo'r llywodraeth naill ai trwy archddyfarniad arlywyddol neu drwybleidlais o ddiffyg hyder yn siambr isaf y senedd, sef yNationalrat. Roedd pleidleisio dros yr Arlywydd Ffederal ac ar gyfer y Senedd yn arfer fod yn orfodol yn Awstria, ond diddymwyd hyn fesul cam rhwng 1982 a 2004.[18]

Mae senedd Awstria yn cynnwys dwy siambr. Mae cyfansoddiad y Nationalrat (183 sedd) yn cael ei bennu bob pum mlynedd (neu pryd bynnag y mae'r Nationalrat wedi'i ddiddymu gan yr arlywydd ffederal ar gynnig gan y canghellor ffederal, neu gan Nationalrat ei hun) gan etholiad cyffredinol lle mae pob dinesydd dros 16 oed â'rhawl i bleidleisio. Gostyngwyd yr oedran pleidleisio o 18 yn 2007; yng Nghymru, gostyngwyd yr oeddran o 18 i 16 yn 2021.

Cysylltiadau tramor

[golygu |golygu cod]
Senedd Ewrop : Awstria yw un o 27 aelod yr UE.

Daeth meddiant Gwladwriaeth Awstria i ben yn 1955, yn dilyn yrAil Ryfel Byd a chydnabuwyd Awstria yn wladwriaeth annibynnol, sofran. Ar 26 Hydref 1955, pasiodd y Cynulliad Ffederal erthygl gyfansoddiadol lle mae "Awstria yn datgan o'i hewyllys rhydd ei hun ei niwtraliaeth barhaus." Nododd ail adran y gyfraith hon "ym mhob amser yn y dyfodol ni fydd Awstria'n ymuno ag unrhyw gynghreiriau milwrol ac ni fydd yn caniatáu sefydlu unrhyw ganolfannau milwrol tramor ar ei thiriogaeth." Ers hynny, mae Awstria wedi llunio ei pholisi tramor ar sail niwtraliaeth, a hwnnw ychydig yn wahanol i niwtraliaeth y Swistir.

Mae Lluoedd Arfog Awstria (Almaeneg:Bundesheer) yn dibynnu'n bennaf arorfodaeth milwrol.[19] Mae'n rhaid i bob bachgen sydd wedi cyrraedd deunaw oed ac sy'n cael ei ystyried yn ffit wasanaethu yn y lluoedd arfog, yn orfodol am chwe mis, ac yna rhwymedigaeth i fod wrth gefn (reserves) am wyth mlynedd. Mae gwrywod a benywod yn un ar bymtheg oed yn gymwys i ymuno'n wirfoddol.[10] Mae gwrthwynebiad cydwybodol yn dderbyniol yn gyfreithiol ac mae'n ofynnol i'r rhai sy'n hawlio'r hawl hon wasanaethu yn ygwasanaeth sifil am gyfnod o naw mis. Ers 1998, caniatawyd i ferched sy'n gwirfoddoli ddod yn filwyr proffesiynol.

Daearyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Map topograffig o Awstria yn dangos dinasoedd gyda dros 100,000 o drigolion

Mae Awstria yn wlad fynyddig i raddau helaeth oherwydd ei lleoliad yn yrAlpau.[20] Mae Alpau'r Dwyrain Canol, Alpau Calchfaen y Gogledd ac Alpau Calchfaen Deheuol i gyd yn rhannol yn Awstria. Dim ond tua chwarter o dir Awstria y gellir ei ystyried yn dir isel, a dim ond 32% o'r wlad sydd o dan 500 metr (1,640 tr).

Gorwedd Awstria rhwng lledredau 46° a 49° G, a hydoedd 9° a 18° Dw.

Gellir ei rannu'n bum ardal, a'r mwyaf yw'r Alpau Dwyreiniol, sy'n cyfateb i 62% o gyfanswm arwynebedd y wlad. Mae godre Awstria ar waelod yr Alpau a'rCarpathiaid yn cyfrif am oddeutu 12% ac mae bryniau isel y dwyrain ac ardaloedd o amgylch cyrion gwlad isel Pannoni yn cyfateb i tua 12% o gyfanswm y wlad. Mae'r ail ardal fynyddig (ond llawer is na'r Alpau) yn y gogledd a chaiff ei adnabod felllwyfandirgwenithfaen Awstria, ac mae'n 10% o arwynebedd Awstria. Mae cyfran Awstria o fasn Fienna yn ffurfio'r 4% sy'n weddill.

Hinsawdd

[golygu |golygu cod]
Map dosbarthu hinsawdd Köppen-Geiger ar gyfer Awstria[21]

Gorwedd y rhan fwyaf o Awstria yn y parth hinsawdd oer / tymherus, lle ceir gwyntoedd llaith, gorllewinol. Gyda bron i dri chwarter y wlad yn cael ei ddominyddu gan yr Alpau, mae'rhinsawdd alpaidd yn drech. Yn y dwyrain - yn y Gwastadedd Pannonaidd ac ar hyddyffryn y Donaw - mae'r hinsawdd yn dangos nodweddion cyfandirol gyda llai o law na'r ardaloedd alpaidd. Er bod Awstria yn oer yn y gaeaf (−10 i 0 °C), gall tymereddau haf fod yn gymharol uchel,[22] gyda thymheredd cyfartalog yng nghanol yr 20au a thymheredd uchaf o 40.5 °C (105 °F) yn Awst 2013.[23]

Economi

[golygu |golygu cod]
Canolfan Ryngwladol Fienna gyda Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig yn Fienna a Thŵr DC 1

Mae Awstria yn gyson yn uchel o ranCMC y pen,[24] oherwydd ei heconomi ddiwydiannol iawn, yn ogystal a'i heconomi marchnad gymdeithasol ddatblygedig. Hyd at yr1980au, roedd llawer o gwmnïau diwydiant mwyaf Awstria wedi'u gwladoli ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, maepreifateiddio wedi lleihau daliadau’r wladwriaeth i lefel y gellir ei chymharu ag economïau eraill Ewrop. Mae mudiadau llafur yn arbennig o ddylanwadol, gan ddylanwadu'n fawr ar wleidyddiaeth llafur a phenderfyniadau sy'n ymwneud ag ehangu'r economi. Wrth ymyl diwydiant datblygedig iawn, twristiaeth ryngwladol yw rhan bwysicaf economi Awstria.

Yn hanesyddol bu'r Almaen yn brif bartner masnachu Awstria, gan ei gwneud hi'n agored i newidiadau cyflym yneconomi'r Almaen. Ers i Awstria ddod yn aelod-wladwriaeth o'rUndeb Ewropeaidd, mae wedi ennill cysylltiadau agosach ag economïau eraill yr UE, gan leihau ei dibyniaeth economaidd ar yr Almaen. Yn ogystal, mae aelodaeth o’r UE wedi denu mewnlifiad o fuddsoddwyr tramor a ddenwyd gan fynediad Awstria i’r farchnad Ewropeaidd sengl ac agosrwydd at ddarpar economïau’r Undeb Ewropeaidd. Cynyddodd y twf mewn CMC 3.3% yn 2006. Daw o leiaf 67% o fewnforion Awstria o aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd.[25] Yn wahanol i Gymru, mae gan Awstria reolaeth lawn o'i harian, a'r penderfyniadau economaidd yn sgil hynny, ble mae Cymru, ar y llaw arall, yn cael ei rheoli i raddau helaeth gan benderfyniadau gwleidyddol San Steffan, Llundain.

Mae Awstria yn rhan o undeb ariannol,ardal yr ewro (glas tywyll), ac ofarchnad sengl yr UE.

Maetwristiaeth yn Awstria yn cyfrif am bron i 9% o'ichynnyrch mewnwladol crynswth.[26] Yn 2007, roedd Awstria yn 9fed ledled y byd mewn derbyniadau twristiaeth rhyngwladol, gyda 18.9 biliwn yn UD $.[27] O ran ymwelwyr, roedd Awstria yn 12fed gyda 20.8 miliwn o dwristiaid.[27]

Seilwaith ac adnoddau naturiol

[golygu |golygu cod]
Argae Kölnbrein ynCarinthia

Ym 1972, dechreuodd y wlad adeiladu gorsaf cynhyrchu trydanniwclear ynZwentendorf ar AfonDonaw, yn dilyn pleidlais unfrydol yn y senedd. Fodd bynnag, ym 1978,pleidleisiodd refferendwm oddeutu 50.5% yn erbyn ynni niwclear, 49.5% o blaid,[28] ac yn dilyn hynny pasiodd y senedd gyfraith yn unfrydol yn gwahardd defnyddio pŵer niwclear i gynhyrchu trydan er bod yr orsaf ynni niwclear eisoes wedi'i gorffen.

Ar hyn o bryd mae Awstria yn cynhyrchu mwy na hanner ei thrydan ganynni dŵr.[29] Ynghyd â ffynonellauynni adnewyddadwy eraill felegni gwynt,solar abiomas, mae'r cyflenwad trydan o ynni adnewyddadwy yn dod i 62.89%[30] o gyfanswm y defnydd yn Awstria, gyda'r gweddill yn cael ei gynhyrchu gan weithfeydd pŵernwy acolew.

Addysg

[golygu |golygu cod]
Stiftsgymnasium Melk, ysgol Gatholig, yw'r ysgol hynaf yn Awstria, ac sy'n olrhain ei gwreiddiau yn y12g.

Rheolir addysg yn Awstria yn bennaf gan y taleithiau (yBundesländer) ac yn rhannol gan y llywodraeth ffederal. Mae presenoldeb mewn ysgol yn orfodol i blant am naw mlynedd, hy fel arfer rhwng 6 a 15 oed.

Darperir addysg cyn-ysgol (o'r enwKindergarten yn Almaeneg), am ddim yn y mwyafrif o daleithiau, ar gyfer pob plentyn rhwng tair a chwe blwydd oed, ac er ei fod yn ddewisol, fe'i hystyrir yn rhan arferol o addysg plentyn. Uchafswm maint y dosbarth yw tua 30, gyda phob dosbarth fel arfer yn derbyn gofal gan un athro cymwys ac un cynorthwyydd.

Mae addysg gynradd, neu <i>Volksschule</i>, yn para am bedair blynedd, gan ddechrau yn chwech oed. Disgwylir yn gyffredinol y bydd dosbarth yn cael ei ddysgu gan un athro am y pedair blynedd gyfan ac ystyrir bod y cwlwm sefydlog rhwng yr athro a'r disgybl yn bwysig ar gyfer lles y plentyn. Mae'r hanfodion (sef darllen, sgwennu a mathemateg) yn dominyddu'r gwersi, gyda llai o amser yn cael ei neilltuo i waith prosiect nag yn y DU. Mae plant yn gweithio'n unigol ac mae pob aelod yn dilyn yr un cynllun gwaith. Nid oes ffrydio .

Yr amseroedd presenoldeb safonol yw rhwng 8 am ac 1 pm, gydag egwyliau pum munud neu ddeg munud yr awr. Rhoddir gwaith cartref i blant yn ddyddiol o'r flwyddyn gyntaf. Yn hanesyddol, ni fu unrhyw awr ginio, gyda phlant yn dychwelyd adref i gael cinio. Fodd bynnag, oherwydd cynnydd yn nifer y mamau mewn gwaith, mae ysgolion cynradd yn cynnig gofal cyn gwers a phrynhawn yn amlach.

Prifysgol Fienna

Fel yn yr Almaen, mae addysg uwchradd yn cynnwys dau brif fath o ysgol, y mae eu presenoldeb yn seiliedig ar allu disgybl fel y'i pennir gan yr ysgol gynradd. Mae'r Gymnasiwm yn darparu ar gyfer y plant mwyaf galluog, yn y flwyddyn olaf y bydd yr arholiad Matura yn cael ei sefyll, sy'n angenrheidiol i gael mynediad i'r brifysgol.

Mae'r Hauptschule yn paratoi disgyblion ar gyfer addysg alwedigaethol ond hefyd ar gyfer gwahanol fathau o addysg bellach (Höhere Technische Lehranstalt HTL = sefydliad addysg dechnegol uwch; HAK = academi fasnachol; HBLA = sefydliad addysg uwch ar gyfer busnes economaidd; ac ati). Mae presenoldeb yn un o'r sefydliadau addysg bellach hyn hefyd yn arwain at y Matura. Nod rhai ysgolion yw cyfuno'r addysg sydd ar gael yn yGymnasium a'rHauptschule, ac fe'u gelwir ynGesamtschulen. Yn ogystal, mae cydnabyddiaeth o bwysigrwydd dysgu Saesneg wedi arwain at rai Gymnasiums i gynnig ffrwd ddwyieithog, lle mae disgyblion y bernir eu bod rhugl mewn ieithoedd yn dilyn cwricwlwm wedi'i addasu, gyda chyfran o amser y wers yn cael ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg.

Diwylliant

[golygu |golygu cod]

Cerddoriaeth

[golygu |golygu cod]
Wolfgang Amadeus Mozart (1756–1791)

Cynhyrchodd y tir a elwir heddiw'n "Awstria" wahanol fathau o gelf, yn fwyaf arbennigcerddoriaeth. Awstria oedd man geni llawer o gyfansoddwyr enwog felJoseph Haydn,Michael Haydn,Franz Liszt,Franz Schubert,Anton Bruckner,Johann Strauss, Sr aJohann Strauss, Jr yn ogystal ag aelodau o'r Ail Ysgol Fiennese felArnold Schoenberg,Anton Webern ac Alban Berg.Ganwyd Wolfgang Amadeus Mozart ynSalzburg, a threuliodd lawer o'i yrfa yn Fienna.

Opera Talaith Fienna

Daeth bri ar statws Fienna fel canolfan ddiwylliannol yn y 16g gynnar; yr adeg yma, roedd y ddinas yn canolbwyntio ar greu offerynnau, gan gynnwys yliwt.Treuliodd Ludwig van Beethoven ran helaeth o'i fywyd yn Fienna. Dewiswydanthem genedlaethol gyfredol Awstria, a briodolir i Mozart, ar ôl yrAil Ryfel Byd i ddisodli anthem draddodiadol Awstria gan Joseph Haydn.

RoeddHerbert von Karajan o Awstria yn brif arweinydd Ffilharmonig Berlin am 35 mlynedd. Fe'i hystyrir gan lawer yn un o arweinwyr cerddorfaol mwyaf yr 20g, ac roedd yn ffigwr blaenllaw mewn cerddoriaeth glasurol Ewropeaidd o'r1960au hyd ei farwolaeth.[31]

Celf a phensaernïaeth

[golygu |golygu cod]
Palas Belvedere, enghraifft o bensaernïaethBaróc

Ymhlith Artistiaid a phenseiri Awstria ceir y peintwyrFerdinand Georg Waldmüller,Rudolf von Alt,Hans Makart,Gustav Klimt,Oskar Kokoschka, Egon Schiele, Carl Moll, aFriedensreich Hundertwasser, y ffotograffwyrInge Morath ac Ernst Haas, a phenseiri fel Johann Bernhard. Fischer von Erlach,Otto Wagner, Adolf Loos, a Hans Hollein (derbynnydd Gwobr Pensaernïaeth Pritzker 1985). Mae'r artist cyfoes Herbert Brandl hefyd yn nodedig iawn.

Sinema a theatr

[golygu |golygu cod]
Arnold Schwarzenegger yr actor adnabyddus a anwyd yn Thal, Styria, Awstria

Roedd Sascha Kolowrat yn arloeswr ym maes gwneud ffilmiau. Daeth Billy Wilder, Fritz Lang, Josef von Sternberg, a Fred Zinnemann yn wreiddiol o Ymerodraeth Awstria cyn sefydlu eu hunain fel gwneuthurwyr ffilm yn rhyngwladol. Cyfoethogodd Willi Forst, Ernst Marischka, a Franz Antel y sinema boblogaidd mewn gwledydd Almaeneg eu hiaith. Daeth Michael Haneke yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei astudiaethau sinematig gan dderbynGolden Globe am ei ffilmThe White Ribbon (2010).

Gwyddoniaeth ac athroniaeth

[golygu |golygu cod]
Karl Popper

Roedd Awstria'n fagwrfa i nifer o wyddonwyr nodedig. Yn eu plith maeLudwig Boltzmann,Ernst Mach, Victor Franz Hess a Christian Doppler, gwyddonwyr amlwg yn y19g. Yn yr20g, roedd cyfraniadau gan Lise Meitner,Erwin Schrödinger a Wolfgang Pauli i ymchwil niwclear amecaneg cwantwm yn allweddol i ddatblygiad y meysydd hyn yn ystod y1920au a'r1930au.Ffisegydd cwantwm cyfoes yw Anton Zeilinger, a nodwyd fel y gwyddonydd cyntaf i arddangos teleportio cwantwm.

Yn ogystal âffisegwyr, Awstria oedd man geni dau o athronwyr mwyaf nodedig yr 20g,Ludwig Wittgenstein aKarl Popper. Yn ogystal â nhw, roedd y biolegwyrGregor Mendel a Konrad Lorenz yn ogystal â'r mathemategydd Kurt Gödel a pheirianwyr fel Ferdinand Porsche a Siegfried Marcus yn Awstriaid.

Llenyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Stefan Zweig

Fel Cymru, mae Awstria wastad wedi bod yn wlad ofeirdd, awduron a nofelwyr. Roedd yn gartref i'r nofelwyrArthur Schnitzler,Stefan Zweig, Thomas Bernhard, a Robert Musil, o'r beirdd Georg Trakl, Franz Werfel, Franz Grillparzer,Rainer Maria Rilke, Adalbert Stifter, Karl Kraus a'r awdur plantEva Ibbotson.

Ymhlith y dramodwyr a nofelwyr cyfoes nodedig y mae:Elfriede Jelinek, enillyddgwobr Nobel , Peter Handke aDaniel Kehlmann.

Taleithiau (Bundesländer) gyda'i prifddinasoedd

[golygu |golygu cod]
Prif:Taleithiau Awstria
  1. Fienna (Wien) -Fienna
  2. Burgenland -Eisenstadt
  3. Carinthia (Kärnten) -Klagenfurt
  4. Salzburg -Salzburg
  5. Awstria Isaf (Niederösterreich) -Sankt Pölten
  6. Styria (Steiermark) -Graz
  7. Tirol -Innsbruck
  8. Vorarlberg -Bregenz
  9. Awstria Uchaf (Oberösterreich) -Linz

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Austria".Encyclopædia Britannica. 31 Mai 2009. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 19 April 2009. Cyrchwyd31 Mai 2009.
  2. "Die Bevölkerung nach Umgangssprache, Staatsangehörigkeit und Geburtsland"(PDF). Statistik Austria. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 13 Tachwedd 2010. Cyrchwyd17 Tachwedd 2010.
  3. Gw. erthyglOstria ganOwain Owain ynBarn, 1970; ailgyhoeddwyd ynBara Brith (Gwasg Gomer 1975).
  4. eiriadur.ac.uk; GPG; gol. Andrew Hawke. Adalwyd 6 Ebrill 2021.
  5. "University of Klagenfurt".Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mai 2011. Cyrchwyd2 Hydref 2009.
  6. Bischof, Günter;Pelinka, Anton, gol. (1997).Austrian Historical Memory and National Identity. New Brunswick: Transaction Publishers. tt. 20–21.ISBN 978-1-56000-902-3.Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2018. Cyrchwyd14 Mehefin 2018.
  7. Brauneder, Wilhelm (2009).Österreichische Verfassungsgeschichte (arg. 11th). Vienna: Manzsche Verlags- und Universitätsbuchhandlung. t. 17.ISBN 978-3-214-14876-8.
  8. "Lebensqualität - Wien ist und bleibt Nummer eins".Stadt Wein (yn Almaeneg). Cyrchwyd2019-10-23.
  9. Jelavich 267
  10. 10.010.1"Austria".The World Factbook.Central Intelligence Agency. 14 Mai 2009. Cyrchwyd31 Mai 2009.
  11. "Austria About". OECD. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 6 Mai 2009. Cyrchwyd20 Mai 2009.
  12. "Austria joins Schengen".Migration News. May 1995. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 7 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd30 Mai 2009.
  13. "Austria and the euro".European Commission - European Commission. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 8 Ionawr 2018. Cyrchwyd7 Ionawr 2018.
  14. "Rome's metropolis on the Danube awakens to new life".Archäologischer Park Carnuntum. Archäologische Kulturpark Niederösterreich Betriebsgesellschaft m.b.H. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 16 Ionawr 2010. Cyrchwyd20 Chwefror 2010.
  15. 15.015.1Johnson 19
  16. Johnson 20–21
  17. Lonnie Johnson 17, 142
  18. "Bundesministerium für Inneres – Elections Compulsory voting". Bmi.gv.at. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 3 Tachwedd 2007. Cyrchwyd3 Ionawr 2009.
  19. Prodhan, Georgina (20 Ionawr 2013)."Neutral Austria votes to keep military draft". Reuters. Cyrchwyd4 Chwefror 2021.
  20. "Alps".Encyclopædia Britannica. Encyclopædia Britannica Online. 11 Mehefin 2009. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 1 Mehefin 2009. Cyrchwyd12 Mehefin 2009.
  21. Beck, Hylke E.; Zimmermann, Niklaus E.; McVicar, Tim R.; Vergopolan, Noemi; Berg, Alexis; Wood, Eric F. (30 Hydref 2018). "Present and future Köppen-Geiger climate classification maps at 1-km resolution". Scientific Data 5: 180214. Bibcode2018NatSD...580214B. doi:10.1038/sdata.2018.214. ISSN 2052-4463. PMC 6207062. PMID 30375988. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6207062.
  22. "Average Conditions, Vienna, Austria". British Broadcasting Corporation. 2006. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2 December 2010. Cyrchwyd24 Mai 2009.
  23. "Austrian Meteorological Institute". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 12 Awst 2012. Cyrchwyd12 Awst 2012.
  24. "Austria". International Monetary Fund. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 25 Tachwedd 2012. Cyrchwyd17 April 2012.
  25. "OEC – Austria (AUT) Exports, Imports, and Trade Partners".atlas.media.mit.edu. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 13 Mawrth 2016. Cyrchwyd12 Mawrth 2016.
  26. "TOURISMUS IN ÖSTERREICH 2007"(PDF) (yn Almaeneg). BMWA, WKO, Statistik Austria. May 2008. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 18 December 2008. Cyrchwyd18 Tachwedd 2008.
  27. 27.027.1"UNTWO World Tourism Barometer, Vol.6 No.2"(PDF). UNTWO. June 2008. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 31 Hydref 2008. Cyrchwyd18 Tachwedd 2008.
  28. Lonnie Johnson 168–9
  29. "Austria Renewable Energy Fact Sheet"(PDF).Europe's Energy Portal. 23 Ionawr 2008. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 20 Mehefin 2009. Cyrchwyd20 Mai 2009.
  30. "Renewable energy in Europe".Eurobserv'er. Europe's Energy Portal. 2006. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 20 Mai 2009. Cyrchwyd20 Mai 2009.
  31. Rockwell, John (17 Gorffennaf 1989)."Herbert von Karajan Is Dead; Musical Perfectionist was 81".The New York Times. tt. A1. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 12 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd27 Gorffennaf 2018.
gw  sg  go
Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd
Chwiliwch amAwstria
ynWiciadur.
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Awstria&oldid=12946384"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp