Maeawr yn uned oamser sy'n hafal i 60eiliad; ceir 24 awr mewndiwrnod. Lluosog y gair ydy "oriau" a defnyddir y gair "orig" am awr sydd wedi mynd yn gyflym. Weithiau, gall olygu "cyfnod o amser" e.e. 'Ni wyddoch yr awr y daw Mab y Dyn' (Beibl).
Dydy awr ddim ynuned rhyngwladol safonol (yr SI) yn swyddogol, ond caiff ei derbyn ar y cyd â'r rhestr hon felUnedau ychwanegol at yr Unedau SI.[1] Gall awr, o fewn safonUTC (Universal Coordinated Time) gynnwys eiladau naid negyddol neu bositif (Saesneg:negative or positive leap second), ac felly, gall ei hyd gynnwys 3,599 neu 3,601 eiliad i bwrpas addasu.
Arferai trigolion yrhen Aifft ddefnyddiocloc haul a rannwyd yn ddiwrnod o haul (sef 10 awr) ac awr bob pen (y cyfnos). Gyda hyn, ychwanegasant 10 awr o nos; cyfanswm o 24 awr.[4]
Cynlluniodd yr henRoegwrAndronicws o Gyrrhws beirianthorologion o'r enw "Tŵr y Gwynt" yn y Ganrif Gyntaf B.C. a oedd yn cynnwys clociau haul a rhannau mecanyddol er mwyn dweud yr amser o fewn cyfnod o 24 awr.[4]
↑τὰ δυώδεκα μέρεα τῆς ἡμέρης παρὰ Βαβυλωνίων ἔμαθον οἱ Ἕλληνες = and the twelve divisions of the day, came to Hellas from Babylonia and not from Egypt. Hdt. 2.109;
↑[Geiriadur Prifysgol Cymru; Cyfrol 1; tudalen 242]