Dinas yn ne-ddwyrainFfrainc sy'n fwyaf enwog oherwydd iddi fod yn ganolfan rhaiPabau aGwrth-Babau yn y Canol Oesoedd ywAvignon (Provençal:Avinhon neuAvignoun). Hi yw prifddinasdépartementVaucluse. Roedd y boblogaeth yn2004 yn 89,300 yn y ddinas ei hun, ac roedd 290,466 yn yr ardal ddinesig yng nghyfrifiad1999.
Saif y ddinas ar lanafon Rhône, ychydig filltiroedd yn uwch na'i chymer gydagafon Durance. Sefydlwyd hi gan lwythCeltaidd yCavares, ac yn ddiweddarch roedd ymsefydlwyrPhocaeaidd oMassilia (Marseilles heddiw) yma. Dan y Rhufeiniaid, fel Avenio, roedd yn un o ddinasoedd mwyaf llewyrchusGallia Narbonensis. Cyhoeddodd Avignon ei hun yn weriniaeth annibynnol ar ddiwedd y12g, ond yn ystod yr ymgyrch yn erbyn yr Albigensiaid (dilynwyr athrawiaeth yCathar), cipiwyd y ddinas ar13 Medi1226 ganLouis VIII, brenin Ffrainc a legad yPab. Gorfodwyd y ddinas i ddymchwel eu muriau.