Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Avicii

Oddi ar Wicipedia
Avicii
FfugenwAvicii, Tim Berg, Tom Hangs, Jovicii, Timberman Edit this on Wikidata
GanwydTim Lidén Edit this on Wikidata
8 Medi 1989 Edit this on Wikidata
Stockholm Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ebrill 2018 Edit this on Wikidata
Muscat Edit this on Wikidata
Label recordioUniversal Music Group, Geffen Records, Island Records, EMI, Ministry of Sound, Vicious Vinyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSweden Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Östra Real Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor, troellwr disgiau, remixer,cynhyrchydd recordiau,canwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTrue, Stories, TIM Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth dawns electronig, cerddoriaeth house blaengar, electro house Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSwedish House Mafia,Daft Punk,Basshunter Edit this on Wikidata
TadKlas Bergling Edit this on Wikidata
MamAnki Lidén Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobrau Cerdd America, Gwobr Gerdd Billboard, Gwobrau Cerddoriaeth MTV Europe, Gwobrau Teen Choice, Gwobrau Cerddoriaeth Byd, Musikexportpriset Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://avicii.com Edit this on Wikidata
llofnod

Troellwr, cerddor, achynhyrchydd recordiau oSweden oeddTim Bergling a oedd yn fwy adnabyddus dan ei enw llwyfanAvicii (8 Medi198920 Ebrill2018).

Cafodd Bergling ei roi yn drydydd ar restrDJ Mag yn 2012 and 2013[1][2] a cafodd ei enwebu ddwywaith amGwobr Grammy, unwaith am ei waith ar "Sunshine" gydaDavid Guetta yn 2012[3] ac unwaith am ei gân "Levels" yn 2013. Rhai o'i ganeuon enwocaf yw "I Could Be the One" gydaNicky Romero, "Wake Me Up", "You Make Me", "X You", "Hey Brother", "Addicted to You", "The Days", "The Nights", "Levels", "Waiting for Love", "Without You" a "Lonely Together". Rhyddhaodd ei albwm cyntaf,True, yn 2013. Yn gyffredinol derbyniodd adolygiadau cadarnhaol gan feirniad cerddorol, gan gyrraedd y deg uchaf mewn dros pymtheg o wledydd ac aeth i'r brig yn siartau Awstralia, Sweden, yr Iseldiroedd a'r UDA.[4][5][6][7] Yn 2015, rhyddhaodd Bergling ei ail albwm stiwdio,Stories.

Gwnaethpwyd fersiwn mewnGwyddeleg o'i gân 'Wake Me Up' gan wersyll iaith Wyddeleg, 'Lurgan'. Mae'r fersiwn, Avicii Vs Lurgan - "Wake Me Up" as Gaeilge[8] sydd wedi derbyn dros 6 miliwn gwyliwr ers ei lwytho ar Youtube yn 2014.

Bu farw ar 20 April 2018 ynOman.[9]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. DJ Mag Top 100 Results 2012. Djmag.com
  2. DJ Mag Top 100 Results 2013. Djmag.com
  3. Avicii."Grammy Awards 2012" (yn Saesneg). Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2013-05-24. Cyrchwyd23 Mai 2013.
  4. Avicii – True. Australian-charts.com. Adalwyd ar 16 Hydref 2015.
  5. Avicii – TrueArchifwyd 2017-07-09 yn yPeiriant Wayback. Danishcharts.com. Adalwyd ar 16 Hydref 2015.
  6. Avicii – True. Swedishcharts.com. Adalwyd ar 16 Hydref 2015.
  7. Avicii – Chart historyArchifwyd 2017-06-26 yn yPeiriant Wayback. Billboard. Adalwyd ar 16 Hydref 2015.
  8. https://www.youtube.com/watch?v=1A6__HssHW8
  9. Aswad, Jem (20 April 2018)."Avicii Dies at 28".Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd20 April 2018.
Awdurdod
Baner SwedenEicon personEginyn erthygl sydd uchod amSwedwr neuSwedwraig. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod amdroellwr. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Avicii&oldid=13008471"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp