Augustus (LladinIMP•CAESAR•DIVI•F•AVGVSTVS23 Medi63 CC–19 Awst14 OC) oeddYmerawdwr cyntafRhufain. GanwydGaius Octavianus, a elwir hefydOctavian. Bu'n ymeradwr o16 Ionawr27 CC hyd ei farwolaeth. Ni ddefnyddiai Augustus y gair "Imperator", gan ddewis ei alw ei hun ynPrinceps.
Wedi i Cesar gael ei lofruddio yn44 CC, datgelwyd yn ei ewyllys ei fod wedi nodi Octavius fel ei etifedd. Cymerodd Octavius yr enwGaius Julius Caesar. Ymunodd mewn cynghrair aMarcus Antonius aMarcus Aemilius Lepidus a chodwyd byddin i wrthwynebu y blaid oedd wedi llofruddio Cesar, oedd yn cael ei harwain ganMarcus Junius Brutus aGaius Cassius. Wedi gorchfygu Brutus a Cassius ymMrwydr Philippi, datblygodd cweryl rhwng Octavius a Marcus Antonius, oedd yn cael ei gefnogi ganCleopatra, brenhinesyr Aifft. Gorchfygwyd Antonius a Cleopatra ymMrwydr Actium, a daeth Octavius yn unig reolwr yr ymerodraeth.
Cymerodd yr enw "Augustus" a'r teitl "Princeps". Dangosodd allu gwleidyddol anghyffredin i gadarnhau ei safle tra'n cadw llawer o nodweddion y cyfnod gweriniaethol, megis ySenedd. I bob golwg, y Senedd oedd yn rheoli Rhufain, ond mewn gwirionedd gan Augustus yr oedd y grym. Cymerodd rai blynyddoedd i ddatblygu fframwaith ar gyfer rheoli'r ymerodraeth. Ni dderbyniodd swydddictator fel Iŵl Cesar pan gynigiwyd hi iddo gan bobl Rhufain. Rhoddodd y Senedd hawliautribwn y bobl acensor iddo am oes, a bu'n gonswl hyd23 OC. Yn rhannol, deilliai ei rym o'r ffaith mai ef oedd a rheolaeth dros y fyddin, ond deilliai hefyd o'iauctoritas (awdurdod) ef ei hun.
Er gwaethaf yr ymladd ar ffiniau'r ymerodraeth, dechreuodd teyrnasiad Augustus gyfnod o heddwch oddi mewn i'r ymerodraeth ei hun, yPax Romana ("Heddwch Rhufeinig"). Heblaw am flwyddyn o ryfel cartref yn69 OC, parhaodd hwn am dros ddwy ganrif.