Clwbpêl-droed o ddinasMadrid ywClub Atlético de Madrid, SAD sy'n chwarae ynLa Liga, prif adran pêl-droedSbaen. Ffurfiwyd y clwb ar26 Ebrill1903[1] felAthletic Club de Madrid gan dri o fyfyrwyr oWlad y Basg oedd yn byw ym Madrid, fel cangen ieuenctid oAthletic Bilbao[1].
Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ynEstadio Vicente Calderón sy'n dal 54,960 o dorf, ond yn 2016 mae disgwyl i'r clwb symud i'w cartref newydd ynEstadio La Peineta fydd yn gallu dal torf o 70,000.
Ffurfiwyd y clwb ar26 Ebrill1903[1] felAthletic Club de Madrid gan dri o fyfyrwyr oWlad y Basg oedd yn byw ym Madrid, fel cangen ieuenctid oAthletic Bilbao[1]. Lleolwyd maes cyntaf Atlético yn Ronda de Vallecas yn ne y ddinas ond ym 1921, wedi i'r clwb ddod yn annibynnol o Athletic Bilbao, adeiladwyd stadiwm newydd, yr Estadio Metropolitano de Madrid, ar eu cyfer[2]. Defnyddiwyd y Metropolitano tan 1966 pan symudodd y clwb i'r Estadio Vicente Calderón[3].
Ar ôl colli yn rownd derfynol yCopa del Rey ym 1921 a 1926, cafodd y clwb wahoddiad i ymuno âLa Liga pan sefydlwyd y gynghrair ym 1928.
- La Liga
- Enillwyr (10): 1939–40, 1940–41, 1949–50, 1950–51, 1965–66, 1969–70, 1972–73, 1976–77, 1995–96, 2013–14
- Segunda División
- Copa del Rey
- Enillwyr (10): 1959–60, 1960–61, 1964–65, 1971–72, 1975–76, 1984–85, 1990–91, 1991–92, 1995–96, 2012–13
- Supercopa de España
- Copa de los Campeones de España(rhaglfaenydd Supercopa de España)
- Copa Presidente FEF(rhaglfaenydd Supercopa de España)
- Copa Eva Duarte(rhaglfaenydd Supercopa de España)
- Copa de la Liga