Gellir gwahaniaethu rhwng athroniaeth a dulliau eraill sy'n ceisio ateb y cwestiynau hyn (e.e.cyfriniaeth,mytholeg neu'rcelfyddydau) drwy ei dull systematig, gwyddonol a'i dibyniaeth ar ddadleuon rhesymegol.[3]
Mae llawer o Gymry wedi ymhel â chwestiynau mawrcrefydd yn hytrach nag athroniaeth fel y cyfryw, a bu perthynas agos rhwngdiwinyddiaeth ac athroniaeth yng Nghymru ers sawl canrif. Yr athronydd cyntaf y gwyddom amdano yng Nghymru oeddEdward Herbert (1583-1648), a gellid dadlau mai ystyriaethau crefyddol a chyfrinol oedd y tu ôl i'r hyn a ysgrifennaiMorgan Llwyd (1619-1659) amyr hunan.
Y gair gwreiddiol am athroniaeth yn y Gorllewin oedd y gairGroeg φιλοσοφία (philosophia), sy'n golygu "cariad at wybodaeth".[4][5]
Cangen o athroniaeth sy'n ymwneud ag egwyddorion sylfaenol yw metaffiseg. Ei nod yw cael gwybod am wirystyr pethau a'u hanfod, ac felly mae'n astudio yn bennafcysyniadauhaniaethol, hynny yw pethau nad oes modd eu profi'nddiriaethol.
Cangen o athroniaeth yw estheteg sy'n ymwneud â naturprydferthwch,celfyddyd, a chwaeth. Nod estheteg yw i ddarparu meini prawf o ddelfrydau ar gyfer astudiaeth feirniadol o'r celfyddydau.
Astudiaeth athronyddol maesmoesoldeb, sef y cwestiwn mawr o "sut y dylem fyw", yw moeseg. Gellir rhannu hanes moeseg yn y Gorllewin yn sawl rhan, gan gychwyn gydaGroegiaid yr Henfyd a gwaith y Soffyddion felProtagoras ac wedyn athronwyr mawr felSocrates,Platon acAristotlys. Ar seiliau gwaith y Groegiaid ond dan ddylanwad ac ysbrydoliaeth amlwg yTestament Newydd, datblygodd moesegGristnogol. Un o foesegwyr mawr yrOesoedd Canol oeddThomas Aquinas a ddilynodd Aristotlys mewn sawl maes ond a roddodd y pwyslais ar ydyletswydd i ufuddhau i ddeddfauDuw. Yn y Cyfnod Modern newidiodd cyfeiriad moeseg a datblygodd Naturiolaeth Foesegol, a welir yng ngwaithThomas Hobbes, er enghraifft. Ond daeth syniadau eraill i'r amlwg, rhai ohonynt yn wrthwynebus i syniadaeth Hobbes, a chafwyd sawl athroniaeth moes yn cynnwysIwtilitariaeth, athroniaethImmanuel Kant a moeseg ôl-Kantaidd, sy'n ymrannu'n sawl ffrwd.
Ethos bywyd yr unigolyn yw moeseg; moesoldeb yw'r agweddau sy'n ymwneud â phobl eraill a chymdeithas oll, megis dyletswyddau ac iawnderau. Delfrydau'r ddamcaniaeth foesol nodweddiadol yw cyffredinoliaeth acamhleidioldeb, ac yn aml bydd y damcaniaethwr normadol yn llunio egwyddorion a safonau ymddygiad er mwyn byw'n moesegol. Mae rhai'n gweld y reddf ddynol a synnwyr cyffredin yn sylfeini moeseg. Hyd yn oedd mewn damcaniaethau sy'n honni eu bod yn hollgyffredinol, maent yn "feysydd ffrwydron" moesegol sy'n llawn cyfyng-gyngor adilemâu sy'n ddadleuon cymhleth o egwyddorion, cafeatau, amodau arbennig, ac anghysondebau.
↑Jenny Teichmann and Katherine C. Evans,Philosophy: A Beginner's Guide (Blackwell Publishing, 1999), tud. 1: "Philosophy is a study of problems which are ultimate, abstract and very general. These problems are concerned with the nature of existence, knowledge, morality, reason and human purpose."
↑A.C. Grayling,Philosophy 1: A Guide through the Subject (Oxford University Press, 1998), tud. 1: "The aim of philosophical inquiry is to gain insight into questions about knowledge, truth, reason, reality, meaning, mind, and value."
↑Anthony Quinton a T. Honderich (gol.),The Oxford Companion to Philosophy (Oxford University Press, 1995), tud. 666: "Philosophy is rationally critical thinking, of a more or less systematic kind about the general nature of the world (metaphysics or theory of existence), the justification of belief (epistemology or theory of knowledge), and the conduct of life (ethics or theory of value). Each of the three elements in this list has a non-philosophical counterpart, from which it is distinguished by its explicitly rational and critical way of proceeding and by its systematic nature. Everyone has some general conception of the nature of the world in which they live and of their place in it. Metaphysics replaces the unargued assumptions embodied in such a conception with a rational and organized body of beliefs about the world as a whole. Everyone has occasion to doubt and question beliefs, their own or those of others, with more or less success and without any theory of what they are doing. Epistemology seeks by argument to make explicit the rules of correct belief formation. Everyone governs their conduct by directing it to desired or valued ends. Ethics, or moral philosophy, in its most inclusive sense, seeks to articulate, in rationally systematic form, the rules or principles involved."