BreninLloegr o 924/925 hyd 939 oeddAthelstan neuÆthelstan (Hen Saesneg:Æþelstan,Æðelstān) (tua895 –27 Hydref939). Roedd yn fab i'r breninEdward yr Hynaf, a nai iÆthelflæd oMersia.
Yn937, gorchfygodd Aethelstan fyddin cynghrair rhwngOlaf III Guthfrithson, breninLlychlynwyrDulyn (Gwŷr Dulyn),Causantín mac Áeda II, brenin yrAlban acOwain I, breninYstrad Clud ymMrwydr Brunanburh. Yn dilyn ei fuddugoliaeth, defnyddiai'r teitlr[ex] tot[ius] B[ritanniae] ("brenin holl Brydain"). Bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac olynwyd ef gan ei hanner-brawd,Edmund.
Ymddengys i holl frenhinoeddCymru gydnabod awdurdod Athelstan. DilynoddHywel Dda bolisi o gyfeillgarwch gydag Athelstan, a chofnodir iddo ymweld a llys Athelstan nifer o weithiau. Arwyddodd nifer o ddogfennau gydag Athelstan, ac mewn rhai ohonynt disgrifir ef felsubregulus neu "is-frenin". Bu raid iIdwal Foel oWynedd dalu teyrnged i Aethelstan hefyd. Yn dilyn marwolaeth Athelstan, cododd Idwal a'i frawd Elisedd mewn gwrthryfel yn erbyn y Saeson, ond lladdwyd y ddau mewn brwydr yn942.
Dywedir i Athelstan yrru'rCernywiaid oGaerwysg, ac yn936, nodir iddo osodAfon Tamar fel ffin orllewinol Wessex.