Un ogymunedau ymreolaetholSbaen ywTywysogaeth Asturias (AstwriegPrincipáu d'Asturies neuAsturies,SbaenegPrincipado de Asturias). Daw'r enw o dylwyth yr Astures, brodorion yr ardal yn ystodOes yr Haearn, enw a fabwysiadwyd gan yRhufeiniaid ar gyfer holl drigolion gogledd-orllewin y penrhynIberaidd.
Asturias yn Sbaen
O dan y drefn Sbaenaidd, mae Asturias hefyd yn dalaith gyda'i ffiniau'n cydredeg â ffiniau'r gymuned. I'r gogledd maeBae Vizcaya, i'r deLeón, i'r dwyrainCantábria ac i'r gorllewin,Galicia. Mae iddi arwynebedd o ychydig dros 10,600 km² - a'i hyd oddeutu 330 km o'r dwyrain i'r gorllewin, a dim ond 130 km o'r de i'r gogledd. Mae'n ardal fynyddig ac arfordirol;carreg galch yw creigiau'r dwyrain a'r canolbarth, gydallechi yn y gorllewin.
Mae mynyddoedd y de'n ffinio ag ucheldir canolSbaen, mae sawl cadwyn o'r Cordillera Cantábrica, y mynyddoedd sy'n croesi gogledd Sbaen o'r dwyrain i'r gorllewin. Yr uchaf oll yw'rPicos de Europa, yn nwyrain Asturias, lle mae dros 200 o gopaon dros 2000m. Amgylchedd karst sydd yno: afonydd tanddaearol, pyllau dwfn iawn, creigiau gydag ôl y dŵr yn stribedi arnyn nhw.
Oherwydd y tirlun a'r hinsawddIwerydd mae llawer o afonydd, y mwyafrif yn fyr. Y mwyaf yw'r Nalon (129 km), prif afon cymoedd y glo. Ceir tair afon sy'n nodedig ameog asewin: y Sella, yr Eo ar y ffin â Galicia, a'r Deva ar y ffin â Cantábria.
Carst (lle mae'r dirwedd wedi'i ffurfio o ganlyniad i ddŵr yn ymdoddi ar greigwely carbonad) yw ei harfordir dwyreiniol, ac mae'r clogwyni'n bigog. Yn y gorllewin ceir mwy o dywod a cherrig meddal. Mae'r traethau ar y cyfan yn fach, ar wahân i rai lle mae afon a gwaith pobl wedi ffurfio bae eang, e.e.Xixón,Ribeseya.
Y prif ddinasoedd ywXixón (Sbaeneg: 'Gijón') lle roedd poblogaeth o tua 271,039 yn 2004, y brifddinasUviéu (Sbaeneg: Oviedo; poblogaeth 209,495) acAvilés (poblogaeth 83,899). Mae cyfanswm y boblogaeth ychydig dros filiwn, ond mae'n tueddu i ostwng, gyda diboblogi yn broblem yng nghefn gwlad. Mae trwch y boblogaeth yn byw yn y canolbarth, yn y dinasoedd a'r cymoedd glofaol, neu cyn-lofaol. Yma mae diwydiant trwm yn dal ei le, gyda gwaith dur Arcelor-Mittal yn dal yn gryf. Yn y dwyrain a'r gorllewin: amaeth, coedwigaeth, pysgota a thwristiaeth sy'n bwysig.
Mae plentyn hynaf Brenin neu Frenhines Sbaen yn cael ei alw'n "Dywysog Asturias", ond fel yn achos "Tywysog Cymru" nid yw'n golygu fod ganddo ran yn ei llywodraeth.
Yr iaith swyddogol ywSbaeneg, ond mae rhywfaint o statws i'r iaithAstwrieg dan y ddeddf.