Astudiaeth ddisgrifiadolorganebau,amgylcheddau, a ffenomenaunaturiol eraill, a wneir yn bennaf drwy arsylwi'n uniongyrchol yn hytrach nagarbrofi dan reolaeth, ywastudiaethau natur neunaturiaetheg,[1] maes ynaturiaethydd. Mae'n cwmpasu'r arfer draddodiadol o gofnodiplanhigion,anifeiliaid,ffyngau, amicrobau yn eucynefinoedd a'u hecosystemau mewn modd systematig, gan nodi eu nodweddion corfforol, dosbarthiad, ymddygiad, a rhyngweithiadau. Dibynna'r naturiaethydd yn aml arwaith maes, gan gynhyrchu nodiadau manwl, darluniadau, a chasgliadau i gofnodi, dogfennu, a chadw pethau byw fel y maent yn ymddangos ac ymddwyn yn eu byd. Maebyd natur neuhanes naturiol yn cyfeirio at y natur a astudir mewn ardal neu gyfnod penodol, er enghraifftbyd natur Cymru.
Yn hanesyddol, astudiaethau natur oedd sylfaen ygwyddorau biolegol.[2] Cyn datblygiaddulliau arbrofol modern, bu ysgolheigion megisAristoteles,Pliniws yr Hynaf, a naturiaethwyr modern cynnar yn catalogio rhywogaethau, disgrifio ymddygiadau, ac ymdrechu i ddosbarthu amrywiaeth bywyd. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar a'r cyfnod modern cynnar, cafodd yr hanesydd naturiol ei gyferbynnu â'rathronydd naturiol, a oedd yn astudio ffenomenauffisegol achemegol yn hytrach na biolegol. Cyrhaeddodd y traddodiad disgrifiadol ei anterth mewn gwaithCarolus Linnaeus, a arloesoedd y systemdacsonomaidd sydd o hyd yn strwythuro'rdull enwi biolegol. Ymddangosoddamgueddfeydd,gerddi botanegol, a chymdeithasau gwyddonol cynnar mewn rhan i drefnu, diogelu, a lledaenu gwybodaeth am fyd natur.
- Gerald Durrell a Lee Durrell,The Amateur Naturalist (1983).