Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Asokavadana

Oddi ar Wicipedia
Asokavadana
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
GwladMaurya empire Edit this on Wikidata
IaithSansgrit Edit this on Wikidata
GenreAvadana Edit this on Wikidata
CyfresDivyavadana Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0g89vm edit this on wikidata
ISBN-13978-81-208-0616-0 Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Colofn Asoka, Vaishali,Bihar

TestunSansgrit yw'rAsokavadana (Sansgrit: अशॊकवदन 'Buchedd neu Hanes Asoka') sy'n rhoi hanes chwedlonolAsoka, ymerawdwrYmerodraeth y Maurya ynIndia o268 CC hyd231 CC sydd â lle pwysig yn hanesBwdhaeth. Ysgrifennwyd y testun yn y 3g OC ynIndia gan awdur anhysbys.

Roedd ymerodraeth Asoka yn ymestyn o’r hyn sy’n awr ynAffganistan hydBengal ac i’r de cyn belled aMysore. Wedi dod i’r orsedd, bu’n ryfelwr llywyddiannus dros ben, ond daeth dan ddylanwadBwdhaeth ac ymwrthododd a rhyfel. Yn250 CC, cynhaliwyd Trydydd Cyngor Bwdhaeth dan nawdd Asoka. Yn dilyn y cyngor, gyrrodd Asoka fynachod i wahanol deyrnasoedd, yn cynnwysBactria,Nepal,Myanmar,Gwlad Tai aSri Lanca, ac efallai cyn belled agAlexandria yn yr Aifft,Antioch acAthen.

Tyfodd cylch o chwedlau am Asoka a gafodd ddylanwad mawr yn y gwledydd Bwdhaidd. Ceir testunau cynnar o'r chwedlau hyn yn yr ieithoeddPali a Sansgrit a chyfieithwyd rhai ohonynt i'rTsieineeg gan ysgolheigion Bwdhaidd oTsieina yn nes ymlaen hefyd. Y testun mwyaf dylanwadol ac adnabyddus yw'rAsokavadana. Mae'n ymgorffori nifer o'r chwedlau poblogaidd am yr ymerawdwr ac yn dilyn ei yrfa o'i enedigaeth hyd ei droi'n Fwdhydd ar ôl syrffedu ar ryfela a gorffen ei ddyddiau yn frenin doeth a heddychlon a threuliodd ei amser yn codistupas sanctaidd a mynachlogydd Bwdhaidd niferus ac a gysegrodd ei hun i gyflawni gweithredoedd da.

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • John S. Strong (gol.),The Legend of King Asoka[:] A Study and Translation of the Asokavadana (Gwasg Prifysgol Princeton, 1983; argraffiad newydd gan Motilal Banarsidass, Delhi, 1989).ISBN 81-208-0616-6
Eginyn erthygl sydd uchod amlenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod amFwdhaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Asokavadana&oldid=11039513"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp