Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Arwyddlun Tsieineaidd

Oddi ar Wicipedia
Yr arwyddlun amHanzi. Du: traddodiadol; coch: symledig

Arwyddlun Tsieineaidd neuHanzi yw'r geirarwyddion (logogramau) a ddefnyddir i ysgrifennuieithoedd Tsieina. Rhennir Hanzi yn arwyddluniautraddodiadol asymledig.

Gellir rhannu arwyddluniau Tsieineaidd yn bum categori:

  • pictogramau (yn cyfleu darlun): 月 = lleuad, 日 = haul
  • ideogramau syml (yn cyfleu syniad): 下 = oddi tan, 上 = uwchben
  • ideogramau cyfansawdd: 日+月 = 明 = clir
  • ffonogramau (yn cyfleu ystyr trwy wreiddyn a rhan ffonetig)
    • e.e.: 女 (gwreiddyn: ‘merch’ + 马 (elfen ffonetig ‘ma’ (ceffyl)) = 妈 ‘mam’
  • arwyddluniau benthyg: i gyfleu syniadau haniaethol, defnyddir arwyddlun sydd eisoes mewn bodolaeth
    • e.e.: 象(eliffant) hefyd yn cael ei ddefnyddio am “yn debyg i”

Ffonogramau yw tua 90% o'r arwyddluniau a ddefnyddir heddiw. Mae tua 56,000 o arwyddluniau Hanzi wedi eu cofnodi, rhai ohonynt yn rhai na ddefnyddir mwyach. Byddai angen gwybod tua 3,000 o arwyddluniau i ddarllen papur newydd Tsieineaidd, tra disgwylid i Tsieinëeg diwylliedig wybod tua 7,000 ar gyfartaledd.

Symleiddiwyd yr arwyddluniau yngNgweriniaeth Pobl Tsieina yn1950 danMao Zedong. Defnyddir y dull symledig ynSingapôr hefyd, ond maeTaiwan yn defnyddio'r dull traddodiadol.

Kanji yw'r enw a roddir ar arwyddluniau Tsieinëeg a gaiff eu defnyddio yn system ysgrifennuJapaneg.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Arwyddlun_Tsieineaidd&oldid=12051756"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp