Arminius |
---|
 |
Ganwyd | Herman  c. 17CC  Afon Weser  |
---|
Bu farw | Germania  |
---|
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol  |
---|
Galwedigaeth | cadfridog rhyfel  |
---|
Swydd | penadur  |
---|
Rhagflaenydd | Segimerus  |
---|
Tad | Segimerus  |
---|
Priod | Thusnelda  |
---|
Plant | Thumelicus  |
---|
- Am y diwinydd Protestannaidd, gwelerJacobus Arminius.
Arweinydd Almaenig oeddArminius, hefydArmin,Almaeneg modern:Hermann (18 CC/17 CC -21 OC). Mae'n fwyaf enwog am ei orchest yn dinistrio tairlleng Rufeinig ymMrwydr Fforest Teutoburg yn9 OC.
Roedd Arminius yn aelod o lwyth yCherusci ac yn fab i'w pennaeth Segimerus. Bu'n ymladd dros Rufain, a rhoddwyd dinasyddiaeth Rufeinig iddo. Dychwelodd i'r Almaen a daeth yn arweinydd cynghrair o lwythau Almaenig i wrthwynebu Rhufain.
Yn 9 OC, enillodd ei fuddugoliaeth fwyaf ynFforest Teutoburg. Ymladdwyd y frwydr dros nifer o ddiwrnodau, yn ôl pob tebyg rhwng9 Medi ac11 Medi, a'r canlyniad oedd i dairlleng Rufeinig danPublius Quinctilius Varus, (Legio XVII,Legio XVIII aLegio XIX), gael eu dinistrio'n llwyr gan yr Almaenwyr dan Arminius.
Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ersBrwydr Cannae yn erbynHannibal. Ni chafodd y tair lleng a ddinistriwyd eu hail-ffurfio. Yn ôl yr hanesydd RhufeinigSuetonius, gyrrwyd yr ymerawdwrAugustus bron yn wallgof gan y newyddion am y digwyddiad, gan daro ei ben yn erbyn muriau y palas a gweiddiQuintili Vare, legiones redde! ("Quintilius Varus, rho fy llengoedd yn ôl imi!")
Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hydAfon Rhein. Ymladdodd Arminius yn erbynTiberius, yna o14 OC, wedi i Tiberius olynu Augustus fel ymerawdwr, yn erbyn nai Tiberius,Germanicus. Bu brwydro caled, ond enillodd Germanicus nifer o fuddugoliaethau dros Arminius, yn enwedig ger Idistoviso arAfon Weser yn16. Gallodd adennilleryr pob un o'r tair lleng a gollwyd ym Mrwydr Fforest Teutobug. Dymunai Germanicus barhau ei ymgyrchoedd ynGermania, ond galwodd Tiberius ef yn ôl i Rufain a'i anfon ar ymgyrch yn y dwyrain.
Yn ddiweddarach, dechreuodd rhyfel rhwng Arminius a Marbod, brenin y Marcomanni. Gorfodd Arminius ei elyn i encilio, ond ni allai ei yrru allan o'i gadarnleoedd yn yr ardal a eleir ynBohemia heddiw. Yn21 llofruddiwyd ef gan aelodau o'i lwyth ei hun a'rChatti, oedd yn teimlo ei fod yn mynd yn rhy bwerus.
Yn y19g, yn enwedig yn ystod y brwydro yn erbynNapoleon ar ddechrau'r ganrif, daeth Arminius yn symbol o genedlaetholdeb Almaenig. Yn1839, dechreuwyd adeiladu cerflun enfawr ohono, yrHermannsdenkmal, ar fryn gerllawDetmold ynFforest Teutoburg.