Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Arius

Oddi ar Wicipedia
Arius
Ganwyd250s Edit this on Wikidata
Cyrenaica Edit this on Wikidata
Bu farw336 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethasgetig, diwinydd, henuriad, pregethwr Edit this on Wikidata

Offeiriad Cristnogol a sylfaenydd credoAriadaeth neu Ariaeth oeddArius (c. 256 -336).

Yn ôlEpiphanius o Salamis roedd Arius yn frodor oLibya, yn ôl pob tebyg hen dalaith RufeinigCyrenaica.

Dechreuodd y ddadl ynAlexandra ynyr Aifft, lle roedd Arius yn byw. Roedd yr EsgobAlexander o Alexandria acAthanasius yn credu fodIesu o'r un sylwedd (ousia) a Duw y Tad, tra'r oedd Arius yn credu ei fod o sylwedd debyg ond nid yr un fath, a bod y Mab wedi ei greu gan y Tad. GalwydCyngor Cyntaf Nicaea gan yr ymerawdwr RhufeinigCystennin I yn325 i ddyfarnu ar y mater. Dyfarnodd y Cyngor yn erbyn yr Ariaid.

Parhaodd Ariadaeth yn boblogaidd ynYmerodraeth Caergystennin a chafodd gefnogaeth gan ymerodron diweddarachCaergystennin felConstantius II aValens. Collodd Ariadaeth golli tir ar ôlCyngor Cyntaf Caergystennin o dan yr YmerawdrTheodosius yn381, ond arhosodd yn ddylanwadol ymysg y teyrnasoeddGermanaidd cynnar, yn enwedig gan yGothiaid.

Eginyn erthygl sydd uchod amGristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Arius&oldid=10895922"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp