Roedd ymhlith yr enwocaf o fathemategwyr yrHenfyd ac un o'r ymenyddol rymusaf a fu erioed. Mae'n cael ei gofio yn y traddodiad poblogaidd am ddefnyddio peiriannau gwrth-warchae yn erbyn llynges yRhufeiniaid (Crafanc Archimedes), am y sgriwiau codi dŵr sy'n dwyn ei enw, ac am weiddiEureka! yn y baddon pan ddarganfu gyfrinach y grym sy'n peri i gorff arnofio ar wyneb dŵr. Dywedir iddo gael ei ladd gan filwyr Rhufeinig yn gwarchae Siracusa - roedd o'n canolbwyntio cymaint ar weithio allan rhyw broblem fathemategol yn ei ben fel na sylwodd ar yr hyn oedd yn digwydd o'i gwmpas.
Ymddengys iddo ymweld â'rAifft ac astudio ynAlecsandria, prifddinas dysg y cyfnod. Mae ei bwysigrwydd yn hanes mathemateg yn gorffwys ar ei ddarganfyddiadau o fformiwlâu am faint a chyfaintsfferau,silindrau,parabolau a ffigyrau gwastad a solet eraill, gwaith a ragflaenodd ddarganfyddiadau yn yr un meysydd ynEwrop yn yr17g. Sefydlodd yn ogystal wyddorhydrostateg. Yn anffodus mae ei waith seryddol ar goll ers canrifoedd ac rydym yn dibynnu ar gyfieithiadau o'rRoeg i'rArabeg am nifer o'i weithiau eraill.
Ymhlith ei ddefnyddiau mwyaf poblogaidd y mae'r sgriw canlynol a caiff ei ddefnyddio ledled y byd i godi dŵr (neu wrthrych arall) o lefel isel i lefel uwch.