Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud

Oddi ar Wicipedia
Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud
Arddullstori dylwyth teg, literary nonsense, children's fiction, children's book Edit this on Wikidata
OlynyddThrough the Looking-Glass Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Kate Greenaway Edit this on Wikidata

Llyfr plant ganLewis Carroll a gyhoeddwyd ym1865 yn wreiddiol ywAnturiaethau Alys yng Ngwlad Hud (teitl gwreiddiol Saesneg:Alice's Adventures in Wonderland, y cyfeirir ato yn gyffredinol felAlice in Wonderland). Mae'r stori yn sôn am ferch ifanc,Alys (Alice), sy'n cwympo i lawr twll cwningen i fyd ffantasi ("Wonderland") a boblogir gan greaduriaid anthropomorffaidd rhyfedd. Mae'r stori'n chwarae â rhesymeg a dyma sydd wedi cadw'r stori'n boblogaidd i oedolion a phlant fel ei gilydd.[1] Canmolir y llyfr fel un o enghreifftiau gorau'rgenre dwli.[1][2] Cyhoeddwyd fersiwnCymraeg, trosiad ganSelyf Roberts, ganWasg Gomer ym 1982.

Hanes

[golygu |golygu cod]
Llandudno
Llandudno

Cyhoeddwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg ym 1865, tair blynedd ar ôl i Charles Lutwidge Dodgson (Carroll) a Robinson Duckworth rwyfo mewn cwch ar y 4ydd o Orffennaf, 1862[3] arAfon Tafwys gyda thair merch ifanc:[4]

  • Lorina Charlotte Liddell (13 oed, ganed 1849; "Prima" yn y llyfr)
  • Alice Pleasance Liddell (10 oed, ganed 1852; "Secuna" yn y llyfr) - Byddai Alice yn treulio gwyliau'r haf gyda'i theulu ym Mhenmorfa,Llandudno. Dymchwelwyd y tŷ Fictoraidd yn 2008 er mwyn adeiladau fflatiau ar y safle. Er gwaethaf ymgyrch byd eang, methoddCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy aChadw warchod y lle.
  • Edith Mary Liddell (8 oed, ganed 1853; "Tertia" yn y llyfr)

Merched Henry George Liddell, is-ganghellorPrifysgol Rhydychen, a phrifathroYsgol Westminster oedd y merched ifanc hyn. Dechreuodd y daith ynFolly Bridge ar bwysRhydychen a gorffennodd mewn pentref bychan o'r enwGodstow. Yn ystod y daith, dywedodd Dodgson wrth y merched stori am ferch ifanc, a enwyd yn Alice ganddo, sy'n chwilio am antur. Mwynheuodd y merched y stori a gofynnodd Alice am gopi ysgrifenedig. Gorffennodd Dodgson ei lawysgrifAlice's Adventures Under Ground, gyda'i luniau ei hun, ar 26 Tachwedd 1864 a chyflwynodd y llyfr i Alice.

Cyn i Dodgson gyflwyno'i lawysgrif i Alice, roedd yn paratoi'r llyfr i'w gyhoeddi a datblygodd y stori wreiddiol o 15,500 i 27,500 gair, sy'n cynnwys y penodau am Gath Swydd Gaer a Pharti Te'r Hetiwr Gwallgof. Ym 1865, cyhoeddwyd stori Dodgson dan yr enwAlice's Adventures in Wonderland gan "Lewis Carroll", gyda darluniadau ganJohn Tenniel. Gohiriwyd yr argraffiad cyntaf oherwydd gwrthwynebodd Tenniel safon yr argraffiad. Cyhoeddwyd argraffiad newydd ym mis Rhagfyr 1865.

Gwerthodd yr argraffiadau i gyd allan yn gyflym. RoeddAlice yn rhyfeddod annwyl i oedolion a phlant. Roedd y frenhinesVictoria a'r llenorOscar Wilde ifanc yn rhai o'r darllenwyr cyntaf.

Uchafbwyntiau cyhoeddi

[golygu |golygu cod]
Y tudalen teitl o'r argraffiad gwreiddiol (1865)
  • 1865: Argraffiad cyntaf yDeyrnas Unedig
  • 1865: Argraffiad cyntafUnol Daleithiau America
  • 1869: CyhoeddwydAlice's Abenteuer im Wunderland gan Antonie Zimmermann ynYr Almaen
  • 1869: CyhoeddwydAventures d'Alice au pays des merveilles gan Henri Bué ynFfrainc
  • 1870: CyhoeddwydAlice's Äfventyr i Sagolandet gan Emily Nonnen ynSweden
  • 1871: Cwrddodd Dodgson Alice arall, Alice Raikes, ynLlundain a siaradodd e ag hi am ei hadlewyrchiad, ysbrydoliaeth Dodgson i ysgrifennuThrough the Looking-Glass
  • 1886: Cyhoeddodd Carroll ffacsimili o'r lawysgrifAlice's Adventures Under Ground
  • 1890: Cyhoeddodd CarrollThe Nursery "Alice", argraffiad arbennig i blant 0-5 oed
  • 1905: Cyhoeddodd Mrs J. C. GorhamAlice's Adventures in Wonderland retold in words of one syllable i ddarlledwyr ifanc
  • 1907: Roedd yr hawlfraintAlice wedi dod i ben yn y DU a'r stori wedi dod parth cyhoeddus. Cyhoeddodd o leiaf wyth argraffiad newydd yn y flwyddyn honno
  • 1908: Cyhoeddwyd y fersiwnSiapaneg cyntaf
  • 1910: CyhoeddwydLa Aventuroj de Alicio en Mirlando ynEsperanto gan Elfric Leofwine Kearney
  • 1928: Gwerthwyd y lawysgrif sy wedi'i rhoi gan Dodgson i Alice Lindell yn Sotheby's ar Ebrill 3. Prynodd Philip Rosenbach y lawysgrif am15,400
  • 1953: CyhoeddwydAnturiaethau Alys Yng Ngwlad Hud gan Selyf Roberts yngNghymru (Gwasg Gee)
  • 1960: Cyhoeddodd Martin Gardner argraffiad arbennig,The Annotated Alice
  • 1964: CyhoeddwydAlicia in Terra Mirabili gan Clive Harcourt Carruthers ynLladin
  • 1982: CyhoeddwydAnturiaethau Alys Yng Ngwlad Hud gan Selyf Roberts yngNghymru (Gwasg Gomer)
  • 1990: CyhoeddwydContoyrtyssyn Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn ganBrian Stowell ymManaweg
  • 1998: Gwerthwyd copi CarrollAlice, un o'r chwe argraffiad sy wedi para'n fyw ers 1865, mewn acsiwn am $1.54 miliwn
  • 2003: CyhoeddwydEachtraí Eilíse i dTír na nIontas gan Nicholas Williams ynNgwyddeleg
  • 2009: CyhoeddwydAlys in Pow an Anethow gan Nicholas Williams yngNghernyweg

Argraffiad Cymraeg

[golygu |golygu cod]

Cynhyrchodd Selyf Roberts drosiad talfyredig ac eithaf ffurfiol ym 1953 yn Gymraeg. Ym 1982, bron i ddeng mlynedd ar hugain diweddarach, teimlai'r angen i'w ddisodli â throsiad llawn o'r newydd mewn arddull ystwythach. Wrth baratoi'r argraffiad modern, gwnaethpwyd ychydig o newidiadau i'r orgraff a'r gystrawen i gydymffurfio ag arferion cyfoes. Er enghraifft, newidiwydp'le ible;hwn'na ihwnna achon'na ihonna; trowyd y cyplysnodau ibara-menyn amoch-gini i fylchau; newidiwydac ysgrôl ia sgrôl, aga allai iag y gallai.[5][6]

Cymysgodd Roberts fesuriadau metrig ac ymerodrol yn anghyson braidd. Am gysondeb mewnol ac i adlewyrchu testun gwreiddiol Carroll yn well, adferwyd y mesuriadau ymerodrol, felly newidiwyddeugain centimedr ipymtheng modfedd ahanner metr idwy droedfedd.

Er mwyn pwysleisio'r ffaith mai cymeriad gwrywaidd yn amlwg yw'r Gwningen Wen yn nhestun Carroll ac mewn lluniau Tenniel, er bodcwningen yn enw benywaidd yn y Gymraeg, newidiwyd yr enw ar ddrws y Gwningen Wen o "C. WEN" i "GWYN GWNINGEN".

Fel yn yr argraffiadau eraill o lyfrau Alys, mae'r cyhoeddwr (Evertype ers argraffiad 2010) wedi cadw at ddyluniad a ysbrydolwyd ganAnnotated Alice Martin Gardiner.[5] Cyhoeddodd Evertype, cyhoeddwr sy'n arbenigo mewn cyfieithu llên glasurolSaesneg, y fersiwn Cymraeg yn 2010 ers iddo fod allan o brint am bum mlynedd ar hugain.

Lleoedd

[golygu |golygu cod]

Ffilmiau

[golygu |golygu cod]

Gweler Hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1Lecercle, Jean-Jacques (1994)Philosophy of nonsense: the intuitions of Victorian nonsense literature Routledge, Efrog Newydd,o, ac yn cynnwys, dudalen 1 ymlaen,ISBN 0-415-07652-8
  2. Schwab, Gabriele (1996) "Chapter 2: Nonsense and Metacommunication:Alice in Wonderland"The mirror and the killer-queen: otherness in literary language Indiana University Press, Bloomington, Indiana, t. 49-102,ISBN 0-253-33037-8
  3. "Story Museum - The real Alice". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2010-11-17. Cyrchwyd2010-09-05.
  4. "The Background & History ofAlice In Wonderland". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-06-02. Cyrchwyd2010-09-05.
  5. 5.05.1Roberts, Selyf (2010) "Foreword: Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud" Evertype, Iwerddon, t. v/vi,ISBN 1904808468
  6. Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae ganGomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
gw  sg  go
Alys ganLewis Carroll
Testunau
Awduron
Darlunwyr
Cymeriadau
Anturiaethau Alys
yng Ngwlad Hud
Trwy'r Drych
Cerddi
(Saesneg)
Pynciau
cysylltiedig
Addasiadau
Dilyniannau
Ail-ddweud Alys
Parodïau
Ail-wneud Alys
Ffilmiau
1903 ·1910 ·1915 ·1931 ·1933 ·1949 ·1951 ·1966 ·1972 ·1976 ·1981 ·1985 ·1988 (Tsiec) ·1988 (Awstralia) ·1995 ·1999 ·2010 ·2016
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Anturiaethau_Alys_yng_Ngwlad_Hud&oldid=14252561"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp