![]() | |
Enghraifft o: | ffilm ![]() |
---|---|
Lliw/iau | lliw ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1984, 11 Mehefin 1987 ![]() |
Genre | ffilm ddrama,ffilm ramantus, ffilm am LHDT ![]() |
Lleoliad y gwaith | Lloegr ![]() |
Hyd | 90 munud ![]() |
Cyfarwyddwr | Marek Kanievska ![]() |
Cynhyrchydd/wyr | Alan Marshall, Robert Fox ![]() |
Cwmni cynhyrchu | Virgin Group, Goldcrest Films, National Film Finance Corporation, Archant ![]() |
Cyfansoddwr | Michael Storey ![]() |
Dosbarthydd | 20th Century Fox,Netflix ![]() |
Iaith wreiddiol | Saesneg ![]() |
Sinematograffydd | Peter Biziou ![]() |
Ffilm ddrama rhamantus gan ycyfarwyddwrMarek Kanievska ywAnother Country a gyhoeddwyd yn 1984. Fe'i cynhyrchwyd yny Deyrnas Gyfunol. Lleolwyd y stori ynLloegr.
Y prif actorion yn y ffilm hon yw Colin Firth, Rupert Everett, Anna Massey, Cary Elwes, Robert Addie a Rupert Wainwright. Mae'r ffilmAnother Country yn 90 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw.[1][2]
Peter Biziou oeddsinematograffydd ('cyfarwyddwr ffotograffi') y ffilm hon a chafodd ei golygu gan Gerry Hambling sydd ymhlith y golygyddion mwyaf toreithiog.
Mae'r ffilm yn seiliedig yn fras ar fywyd yr ysbïwr ac asiant dwbl Guy Burgess, (Guy Bennett yn y ffilm). Mae'n archwilio ei wrywgydiaeth a'i gyflwyniad i Farcsiaeth, wrth archwilio rhagrith a snobyddiaeth system ysgolion bonedd Lloegr.[3]
Mae'r stori wedi ei leoli mewn ysgol fonedd, wedi'i seilio arEton a Winchester, yn y 1930au. Mae Guy Bennett (Rupert Everett) a Tommy Judd (Colin Firth) yn ddisgyblion yn yr ysgol. Oherwydd bod y ddau ohonyn nhw ar yn bobl yr ymylon yn eu ffyrdd eu hunain, maent hefyd yn ffrindiau (mae Bennett ynhoyw tra bod Judd ynFarcsydd).[4]
Ar gychwyn y ffilm mae athro yn dod ar draws dau fachgen ynmastyrbio ei gilydd. Oherwydd ei gywilydd o gael ei ddal yn cyflawni gweithred wrywgydiol mae un o'r bechgyn yncrogi ei hun. Mae'r athrawon a’r disgyblion hŷn yn ymdrechu’n galed i gadw’rsgandal draw oddi wrth rieni a’r byd tu allan.[5]
Mae’r sgandal hoyw, yn rhoi esgus i Fowler, capten y tŷ mae Bennett yn aelod ohoni, i gynllwynio yn erbyn Bennett. Nid yw Fowler yn hoffi Bennet na Judd ac mae'n ofni caiff Bennett ei benodi yn "Dduw" - teitl ysgol ar gyfer y ddau brif fachgen. Mae Fowler yn llwyddo rhyng-gipio nodyn serch gan Bennett i'w gyd ddisgybl James Harcourt . Mae Bennett yn cytuno i gael ei gosbi âchansen er mwyn peidio â chyfaddawdu Harcourt. Ar achlysuron eraill, roedd wedi osgoi cosb trwy flacmelio'r "Arglwyddi" (swyddogion) eraill gyda'r bygythiad y byddai'n datgelu eu profiadau rhywiol hwy gydag ef.[6]
Mae Judd yn ddweud wrth Bennett ei fod yn gyndyn o ddod yn swyddog ymysg y disgyblion, gan ei fod yn teimlo na all gymeradwyo'r fath "system o ormes". Mae’n gwneud araith deimladwy, chwerw am sut mae’r bechgyn sy'n cael eu gorthrymu gan y system yn tyfu i fod y tadau sy'n ei chynnal. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae'n cytuno i ddod yn swyddog er mwyn atal Fowler rhag dod yn Bennaeth y Tŷ. Yn y pendraw nid yw'n cael ei wneud yn swyddogoherwydd bod Donald Devenish yn cytuno i aros yn yr ysgol a dod yn swyddog os caiff ef ei enwebu i ddod yn Dduw yn lle Bennett.
Wedi torri ei galon ar golli ei freuddwyd o ddod yn Dduw. Daw Bennett i sylweddoli bod ysystem ddosbarthPrydeinig yn dibynnu'n gryf ar olwg allanol a bydd bod yn agored hoyw yn rhwystr difrifol i'w ddymuniad i gael gyrfa feldiplomydd.
Mae epiliog y ffilm yn adrodd bod Bennet wedi troi ei gefn ar Brydain ac wedi encilio iRwsia yn ddiweddarach yn ei fywyd, ar ôl bod yn ysbïwr i’rUndeb Sofietaidd. Bu farw Judd yn ymladd ynRhyfel Cartref Sbaen.
Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Marek Kanievska ar 30 Tachwedd 1952 ynLlundain.
Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
Cyhoeddodd Marek Kanievska nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:
Rhestr Wicidata:
Ffilm | Delwedd | Gwlad | Iaith wreiddiol | dyddiad |
---|---|---|---|---|
A Different Loyalty | Unol Daleithiau America y Deyrnas Unedig Canada | Saesneg Rwseg | 2004-01-01 | |
Another Country | y Deyrnas Unedig | Saesneg | 1984-01-01 | |
Less Than Zero | Unol Daleithiau America | Saesneg Sbaeneg | 1987-01-01 | |
Where The Money Is | Unol Daleithiau America | Saesneg | 2000-01-01 |