Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Ankara

Oddi ar Wicipedia
Ankara
Mathbwrdeistref fetropolitan Twrci,dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,803,482 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMansur Yavaş Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tyrceg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhanbarth Canoldir Anatolia Edit this on Wikidata
SirAnkara Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd25,632 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr938 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawÇubuk, Hatip Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.9358°N 32.8387°E Edit this on Wikidata
Cod post06000–06999 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Ankara Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMansur Yavaş Edit this on Wikidata
Map

PrifddinasTwrci a'r ddinas ail fwyaf yn y wlad honno ywAnkara (hefyd:Ancara; hen enwauAngora acAncyra), sy'n brifddinasTalaith Ankara yn ogystal. Yn2007 roedd tua 4,455,453 o bobl yn byw yn y ddinas. Lleolir Ankara 938 medr uwchben lefel y môr. Mae hinsawdd cyfandirol, gyda hafau tymherol ac eira yn y gaeaf. Ankara yw canolfan masnach a diwydiant bwysicaf y wlad ond cyn ei dyfod yn brif ddinas roedd hi'n enwog yn bennaf am eigeifr blew hir ynghyd â'rgwlân arbennig a geir ohonynt, sefgwlân Angora.

Cafodd y ddinas ei chodi yng nghanol ucheldirAnatolia ac mae'n groesfforddcludiant bwysig iawn iffyrdd a'rrheilffyrdd fel ei gilydd. Prifysgolion y ddinas yw Prifysgol Technoleg y Dwyrain Canol (Middle East Technical University; METU), Prifysgol Hacettepe, Prifysgol Bilkent aPhrifysgol Ankara ei hun. MaeLlyfrgell Genedlaethol Twrci a'r Amgueddfa Ddaearegol i'w cael yn Ankara yn ogystal.

Ers y dewiswyd hi fel prifddinas Twrci ganKemal Atatürk yn lleIstanbul, mae'r ddinas wedi datblygu ac erbyn hyn mae'n cynnwys hen ardal o'r enwUlus ynghyd ag ardal newydd o'r enwYenisehir. Mae adeiladauRhufeinig,Bysantaidd acOtomanaidd yn y strydoedd cul yn yr hen chwarter, a cheir gwestai mawr, theatrau, canolfannau siopio ac ati yn yr ardal newydd. MaeCynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci a swyddfeydd yllywodraeth, ynghyd â llysgenhedaethau gwledydd tramor i'w cael yn yr ardal newydd hefyd.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu |golygu cod]
  • Palas Ankara
  • Çankaya Köşkü (palas Arlywydd Twrci)
  • Mosg Kocatepe
  • Tŵr Atakule
  • Tŷ Opera

Enwogion

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
PrifddinasoeddEwrop
Gogledd
Gorllewin
De
Dwyrain
Eginyn erthygl sydd uchod amDwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Ankara&oldid=11715904"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp