actor ffilm,cyfarwyddwr ffilm,cynhyrchydd ffilm,model, actor llais,sgriptiwr, dyddiadurwr, actor cymeriad, actor teledu,actor, cynhyrchydd, gwneuthurwr ffilm, dyngarwr, cynhyrchydd gweithredol,ysgrifennwr, dyngarwr, model ffasiwn, sgriptiwr ffilm, cyfarwyddwr
Er iddi ddod ar y sgrin yn gychwynol ochr yn ochr a’i thad, Jon Voight yn y ffilm 1982 Lookin’ to Get Pit, fe ddechreuodd yrfa Jolie o ddifrif ddegawd yn ddiweddarach yn y cynhyrchiad Cyborg 2 (1993). Ei rôl blaenllaw gyntaf mewn ffilm fawr oedd yn Hackers (1995). Serennodd yn y ffilmiau bywgraffyddol George Wallace (1997) a Gia (1998), ac fe enillodd Academy Award for Best Supporting Actress am ei pherfformiad yn y ddrama Girl, Interrupted (1999). Cafodd Jolie fwy o enwogrwydd am ei phortread o’r arwres Lara Croft yn y ffilm Lara Croft: Tomb Raider (2001), ac er hynny mae hi wedi llwyddo i ddod yn un o’r actorion enwocaf ac un o'r rhai sy’n cael ei thalu fwyaf yn Hollywood. Mae hi wedi cael ei llwyddiannau mwyaf yn y ffilm Mr. & Mrs. Smith (2005) a’r ffilm Kung Fu Panda (2008.)
Wedi ysgaru â’r actorion Jonny Lee Miller a Billy Bob Thornton, cychwynnodd Jolie berthynas a’r actor Brad Pitt yn 2004 a phriododd y ddau yn Awst 2014. Mae eu perthynas wedi denu sylw'r cyfryngau ledled y byd a bathwyd y cyfansoddair 'Brangelina' Mabwysiadodd Jolie a Pitt tri plentyn, Maddox, Pax a Zahara, a mae ganddynt dry plentyn biolegol, Shiloh, Knox a Vivienne. Yn Medi 2016 cyhoeddwyd fod Jolie wedi gwneud cais am ysgariad.[6]