Anfetel yw un fath o elfen gyda phriodweddau penodol. Maent ynelfennau gydagegnïon ïoneiddiad uchel, sy'n eu galluogi i ffurfioanïonau yn hawdd trwy ennill electronau ac yn arwain at fath o fondio a elwir ynfondio cofalent. Oherwydd y bondio yn yr elfennau hyn, mae ganddynt briodweddau cyffelyb a nodweddiadol. Maent yn bresennol mewn canrannau uwch na'rmetelau ar y ddaear, er bo dros hanner yr elfennau naturiol yn fetelau. Ar ytabl cyfnodol mae'r anfetelau ar y dde gyda llinell igam-ogam yn eu gwahanu'r o'r metelau. Mae'r llinell yn rhedeg oforon iboloniwm, gyda'r elfennau o amgylch y llinell ynlled-fetelau.
Nid oes modd diffinio anfetel yn llym, gan fod priodweddau anfetelau'n amrywio'n fawr. Er hynny, mae yna nifer o dueddiadau cyffredinol y gellid defnyddio i ddiffinio anfetel - yn ffisegol ac yn gemegol.
Mae'r anfetelau yn solid a nwyon, gydag un hylif (bromin), ar dymheredd ystafell.
Yn gyffredinol mae gan anfetelauymdoddbwyntiau,berwbwyntiau a dwysedd îs. Mae'r mwyafrif o'r solidau yn bwl o ran eu golwg, gyda'i lliwiau yn amrywio.
Maent hefyd yn:
Ynysyddion trydanol heblaw am rhai esiamplau prin fel graffit (alotrop o garbon) a ffosfforws du (alotrop o ffosfforws) sy'n dargludo oherwydd eu hadeiledd cyffelyb, anghyffredin.
Ynysyddion thermol
Deunyddiau brau, sy'n torri pan ceisir newid siâp yr elfennau solid.
Electronegatif iawn. Mae anfetelau yn ennill electronau yn hawdd i ffurfio anïonau, felly maent yn adweithio gyda rhai metelau i ffurfio cyfansoddion ïonig.
Medru rhannu electronau gydag atomau anfetel arall i ffurfio bondiau cofalent, felly mae nifer o anfetelau ynddeuatmoig.