RoeddAndy Warhol (6 Awst1928 –22 Chwefror1987) yn arlunydd Americaniad, y cymeriad mwyaf amlwg yn y mudiad celfyddyd gweledolPop. Ar ôl cyfnod feldarlunydd masnachol, daeth Warhol yn arlunydd avant-garde, ei waith yn cynnwys amrywiaeth eang o feysydd a chyfryngau – arlunio â llaw, peintio, gwaith print, ffotograffiaeth, argraffu sgrin sidan, ffilm a cynhyrchydd cerddoriaeth. Roedd yn arloeswr mewn celfyddyd ddigidol gan ddefnyddio cyfrifiaduron Amiga ym 1984 y flwyddyn gyntaf iddynt ddod ar y farchnad, dwy flynedd cyn iddo farw.
Roedd ei waith yn canolbwyntio ar y perthynas rhwng celfyddyd, sêr diwylliant poblogaidd, a'r byd hysbysebu o'r 1960au ymlaen, yn bathu'r dywediad15 munud o enwogrwydd.
Mae ei waith ymhlith y drytach ar y farchnad gelf, y swm uchaf a dalwyd erioed am un o weithiau Warhol yw US$100 miliwn am lun ar ganfas o 1963 o'r enwEight Elvises.[1]
Fe'i anwyd yn Andrej Varhola Jr. ymPittsburgh,Pennsylvania, yn bedwerydd plentyn Andrej a Julia Varhola. Roedd ei rhieni'n ddosbarth gweithiol, yn wreiddiol o Mikó, Awstria-Hwngari (yn awr Miková yng ngogledd orllewin Slofacia]]). Symudodd ei dad i'rUnol Daleithiau ym 1914, ei fam yn ymuno ym 1921.[2][3]Yn ifanc fe'i ddioddefodd salwch a oedd yn achosi iddo orfod aros yn ei wely am gyfnodau hir ac yn methu mwynhau cwmni'r plant o'i amgylch. Fel canlyniad fe ddatblygydd perthynas agos gyda'i fam ac fe ddaeth yn hypocondriac gyda chasineb o ysbytai. Wrth aros yn ei wely fe gasglodd luniau o sêr ffilm. Pan roedd Warhol yn 13 oed bu farw ei dad mewn damwain. Nes ymlaen yn ei fywyd fe ddisgrifiodd Warhol y cyfnod yma'n adeg bwysig yn ffurfio ei bersonoliaeth.[4]Astudiodd gelf fasnachol ar ôl gadael yr ysgol, yn symud i fwy iEfrog Newydd i ddechrau gyrfa yn arlunio cylchgronau a hysbysebion.
Yn y 1950au, ddaeth Warhol yn enwog am ei ddarluniau inc ar gyfer hysbysebion esgidiau a chloriau recordiau, mewn steil rhydd yn aml yn blotio'r inc tra'n wlyb.[5]
Roedd Warhol yn ddefnyddiwr cynnar o'r proses argraffu sgrin sidan fel techneg ar gyfer gwneud darluniau. Roedd ei brintiau sgrin gyntaf yn cynnwys delweddau wedi'u harlunio â llaw ond fe symudodd ymlaen i brosesau ffotograffig ar gyfer gwneud y sgriniau.[6]
Yn ei lyfrPOPism fe ysgrinennodd, "When you do something exactly wrong, you always turn up something."[7]
Warhol (chwith) gydaTennessee Williams (dde) yn siarad ar y SS France, 1967; yn y cefndir: Paul Morrissey.
Dechreuodd arddangos ei waith mewn orielau celf tra'n gweithio fel arlunydd masnachol yn y 1950au, ond ar ddechrau'r 1960au fe aeth ati i gynhyrchu printiau mawr o delweddau poblogaidd Americanaidd a ddaeth y enwog iawn wrth iPop ddod y un o fudiadau celf pwysicaf y degawd.Roedd celfyddydPop yn ffurf newydd, arbrofol a ddatblygwyd gan artistiaid unigol felRoy Lichtenstein,Jasper Johns, aJames Rosenquist. Trwy ddefnyddio delweddau enwogion, hysbysebion, stribedi comig a phacedi siopa fe geision nhw ddogfenni gyda hiwmor, parodi ac eironi'r gymdeithas o'u hamgylch a natur arwynebol cyfalafiaeth ronc America y 60au.Roedd gwaith Warhol yn seiliedig ar ddelweddau iconau'r cyfnod - boteli Coca-Cola, caniau cawl Campell's, pacedi Brillo, sêr mawr felMarilyn Monroe,Elvis Presley,Marlon Brando aElizabeth Taylor a thoriadau papurau newydd neu ffotograffau'n dangos yr heddlu'n ymosod ar brotestwyr hawliau sifil.
Yn fras, lliwgar ac yn hawdd deall, fe ddaeth ei waith yn boblogaidd gyda'r cyhoedd ond hefyd yn creu sioc gyda'u newydder chwyldroadol ac yn ddadleuol am ddiffyg technegau celfyddyd gain draddodiadol.
Ym 1962 fe sefydlodd stiwdioThe Factory mewn hen adeilad fawr yng nghanol Efrog Newydd. Fe ddaeth yn fan gyfarfod ar gyfer grŵp o pobl bohemaid – 'Sêr' ffilmiau Warhol - trawswisgwyr ac actorion a modelau gobeithiol. Mae cân Lou Reed, 'Walk on the Wild Side', 1972, yn sôn am gymeriadau'r Factory. Bu enwogion felSalvador Dalí,Allen Ginsberg,Bob Dylan aMick Jagger hefyd yn ymwelwr cyson.
Fe gydweithiodd gyda prosiect i sefydlu grŵp roc arbrofolThe Velvet Underground, a oedd yn defnyddio'r Factory fel lle ymarfer. Enwir Andy Warhol yn gynhyrchydd record gyntaf y Velvet Underground, er iddo adael y gerddorion gael rhyddid llwyr.
Yn ôlJohn Cale o'r Velvet Underground,It wasn't called the Factory for nothing. It was where the assembly line for the silkscreens happened. While one person was making a silkscreen, somebody else would be filming a screen test. Every day something new.[8]
Fel cyn arlunydd masnachol roedd Warhol yn gyffyrddus gyda'r syniad o ddefnyddio technegau masnachol i gyflymu'r proses o gynhyrchu'r darluniau. Argraffwyd cyfresi o brintiau, pob un yn gallu cael eu gwerthu yn hytrach na chymryd amser maith i beintio un gynfas unigol. Gadwodd llawr o'r gwaith llafur i’w gynorthwywyr felGerard Malanga.
Rhwng 1963 a1968 fe wnaeth dros 60 o ffilmiau[9] a rhyw 500 o ffilmiau byrion du a gwyn 'prawf sgrin' o ymwelwyr i'r Factory.[10]
Un o'i ffilmiau enwocaf ywSleep sydd yn dangos y bardd John Giorno yn cysgu am 6 awr. MaeEmpire yn dangos wyth awr o'r adeilad y Empire State. Mae'r ffilmBlow Job yn dangos 35 munud o wyneb DeVeren Bookwalter yn derbyn rhiw ceg, er bod y camera byth yn dangos os yw hyn yn wir.[11]Un o ffilmiau mwyaf poblogaidd oedd yr arolesolChelsea Girls (1966), a ddefnyddiodd ddwy ffilm 16mm wedi'u proseictio ochr ac ochr, yn dangos dwy stori ar yr un pryd. Yn dilyn yr ymgais i'w lofruddio ym 1968 fel rhoddodd Warhol y gorau i wneud ffilmiau gan adael i Paul Morrissey ofalu am ffilmiau'r Factory. Yn y 1970au fe dynwyd y rhan mwyaf o'i ffilmiau rhag cael eu dosbarthiad i sinemâu. Nid yw llawer o'u ffilmiau wedi bod ar gael ar fideo neu DVD.
Ar 3 Mehefin, 1968, fe geisiodd yr ysgrifenwraig radicalaidd ffeministaiddValerie Solanas saethu Warhol a'r beirniad celf Mario Amaya yn y Factory. Roedd Solanas wedi bod yn un o griw y Factory a wedi cael ei ffilmio gan Warhol. Ysgrfenodd Solanas maniffesto ffeministaidd o dan y teitlSCUM Manifesto[12] y llythrennau SCUM yn sefyll dros 'Society for Cutting up Men'. Fe ysgrifennodd hi sgript ffilm gan obeithio buasai Warhol yn ei gynhyrchu. Yn ddig gyda Warhol am ei ddiffyg diddordeb, fe ofynnwyd Solanas adael y Factory ond dychwelodd gyda gwn i'w lladd.[13] .[14][15]
Fe anafwyd Warhol yn ddifrifol, yn cael effaith sylweddol ar ei iechyd, bywyd a chelf am weddill ei fywyd. Fe garcharwyd Solanas. Mae'r ffilmI Shot Andy Warhol,[16], 1996, yn seiliedig ar hanes y digwyddiad.
I gymharu â'r degawd blaenorol, roedd y 1970 yn gyfnod llawer fwy sefydlog i Warhol wrth iddo droi yn ddyn busnes craf gan ganolbwyntio ar greu portreadau ar gomisiwn ar gyfer cleientiaid cyfoethog fel y Brenin Iran,Mick Jagger,Liza Minnelli,John Lennon,Diana Ross aBrigitte Bardot.[17]
Gyda Gerard Malanga fe sefydlodd y cylchgrawn bywyd enwogionInterview ac fe gyhoeddoddThe Philosophy of Andy Warhol (1975) yn datgan: "Making money is art, and working is art and good business is the best art."[18]
Erbyn y cyfnod yma beirniadwyd Warhol am fod ond yn 'artist busnes', ei bortreadau o enwogion yn 'fasnachol' ac yn 'arwynebol'. Ym 1980 fe arddangosodd 10 portread o enwogionIddewig yn Amgeuddfa Iddewig Efrog Newydd – er iddo beidio cael unrhyw ddiddordeb yn Iddewiaeth gan nodi yn ei ddyddiadur 'They're going to sell'[19]
Erbyn hyn mae’r gwaith yma yn cael eu weld gan feirniad fel adlewyrchiad a hunan barodi o'r ffordd mae gweithiau celf wedi dod yn eitemau masnachol i gyfoethogion di-chwaeth yn chwilio am gyfleoedd buddsoddi a'r statws o fod yn berchen ag enw enwog.
Bu farw Warhol yn ei gwsg yn dilyn llawdrinaeth ar 22 Chwefror, 1987
↑"The Prince of Pop Art". Arthistoryarchive.com.Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-07. CyrchwydAugust 14, 2010.Unknown parameter|deadurl= ignored (help)
↑Jobey, Liz, "Solanas and Son,"The Guardian (Manchester, England) August 24, 1996: page T10 and following.
↑Harding, James. "The Simplest Surrealist Act: Valerie Solanas and the (Re)Assertion of Avantgarde Priorities". TDR/The Drama Review45 (4; Winter 2001): 142–162. doi:10.1162/105420401772990388.
"A symposium on Pop Art".Arts Magazine, April 1963, pp. 36–45. The symposium was held in 1962, at The Museum of Modern Art, and published in this issue the following year.
Bockris, Victor (1997).Warhol: The Biography. New York: Da Capo Press.ISBN0-306-81272-X.
Celant, Germano.Andy Warhal: A Fatory. Kunstmuseum Wolfsbug, 1999. isbn 3-7757-0073-5
James, James, "Andy Warhol: The Producer as Author", inAllegories of Cinema: American Film in the 1960s (1989), pp. 58–84. Princeton: Princeton University Press.
Koestenbaum, Wayne (2003).Andy Warhol. New York: Penguin.ISBN0-670-03000-7.
Rosalind Krauss|Krauss, Rosalind E. "Warhol's Abstract Spectacle". InAbstraction, Gesture, Ecriture: Paintings from the Daros Collection. New York: Scalo, 1999, pp. 123–33.
Livingstone, Marco; Dan Cameron; Royal Academy (1992).Pop art: an international perspective. New York: Rizzoli.ISBN0-8478-1475-0.
Michelson, Annette (2001).Andy Warhol (October Files). Cambridge MA: The MIT Press.
Scherman, Tony & Dalton, David,POP: The Genius of Andy Warhol, HarperCollins, New York, N.Y. 2009
Suarez, Juan Antonio (1996).Bike Boys, Drag Queens, & Superstars: Avant-Garde, Mass Culture, and Gay Identities in the 1960s Underground Cinema. Indianapolis: Indiana University Press.