Gwlad fechan yn ne-orllewinEwrop ywTywysogaeth Andorra neuAndorra sy'n ffinio âFfrainc aSbaen. Wedi'i chuddio bron ym mynyddoedd yPyreneau, maetywysogaeth Andorra'n dibynnu ar y diwydianttwristiaeth yn bennaf. Gwlad yn llawn dyffrynnoedd cul a thirwedd fynyddig ydyw a'i phrifddinas ywAndorra la Vella, sef y brifddinas uchaf yn Ewrop o lefel y môr: 1023m.[1] Yn y cyfrifiad diwethaf roedd poblogaeth y wlad yn 87,486(28 Chwefror 2025)[2], sydd tua hanner maintCasnewydd.
Mae dros ddeng miliwn o dwristiaid yn heidio i'r wlad hon bob blwyddyn, fe'u denir gansgïo, y tywydd braf a'r ystod eang o nwyddau rhad o gymharu â'r gwledydd sy'n ffinio â hi.
Delwedd lloeren o Andorra
Ers dros saith gan mlynedd bellach, rheolir y wlad ar y cyd gan arweinydd Ffrainc acEsgob Urgell o Sbaen. Pasiwyd y cyfansoddiad seneddol cyntaf ym 1993 gan sefydlu cyd-dywysogaeth seneddol yno. Er bod y cyd-dywysogion yn dal i fod yn arweinwyr y wlad, rôl anrhydeddus sydd ganddynt mewn gwirionedd.
Ceir poblogaeth o 64,000 yn y wlad, er bod llawer o'r rheiny'n hanu o Sbaen yn wreiddiol. Yr iaith swyddogol yw'rGatalaneg er bodSbaeneg ac, i raddau llai,Ffrangeg hefyd yn cael eu siarad. Prif grefydd y wlad ywCristnogaeth ac mae Andorra'n un o'r gwledydd sy'n defnyddio'rEwro. Mae'n cynhyrchu ei fersiynau eu hunan o'r darnau Ewro, fel pob un arall o'r gwledydd sy'n rhan o'r Ewro.
Mae cofnodion am fodolaeth Andorra fel gwladwriaeth yn dyddio i1278 pan gafodd y wlad ei rhoi dan gyd-arglwyddiaethEsgob Urgell, yn Sbaen, a'r Cownt de Foix yn Ffrainc (ac yn ddiweddarach Coron Ffrainc). Heddiw mae'r drefn yn dal i fodoli, er bod arlywydd Ffrainc wedi cymryd lle'r Goron ffiwdal. Pasiwyd y cyfansoddiad seneddol cyntaf ym1993, gan sefydlu cyd-dywysogaeth seneddol.
Andorra a Chymru o ran lleoliad a maint.Map Andorra
Mae Andorra yn un o wledydd lleiaf Ewrop a'r byd. Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Ewrop rhwngFfrainc aSbaen. Amgylchynir y wlad yn gyfangwbl bron gan fynyddoedd yPyreneau, ac eithrio yn y de-orllewin lle mae Dyffryn Andorra yn ymagor i dalaithLerida yn Sbaen.
Mae diwylliant Andorra wedi ei dylanwadu gan ei dau gymydog mawr, Ffrainc a Sbaen. Yr iaith swyddogol yw'rGatalaneg, ond yn ogystal maeSbaeneg ac, i raddau llai,Ffrangeg yn cael eu siarad.
Twristiaeth yw'r sector pwysicaf o lawer yn economi Andorra. Mae awyr braf y mynyddoedd, y cyfe i sgïo, a'r ffaith fod prisiau'n llai yn Andorra nag yn Ffrainc a Sbaen, yn denu miloedd o bobl yno ar eu gwyliau. Mae'r wlad yn yr ardalEwro.