Asia Leiaf yw'r enw Clasurol am y rhan o orllewinAsia a elwir hefyd ynAnatolia ac sy'n gyfateb yn fras i diriogaethTwrci heddiw. Mae'n gorwedd rhwngy Môr Du yn y gogledd, yMôr Canoldir yn y de,Môr Marmara aMôr Egeaidd yn y gorllewin a mynyddoeddCwrdistan,Armenia a'rCawcasws yn y dwyrain. Mae'rHellespont yn gorwedd rhyngddi acEwrop.
Am gyfran helaeth o'r ail fileniwm Cyn Crist roedd y rhan fwyaf o Asia Leiaf yn rhan o ymerodraeth yrHitiaid. Yn sgîl dymchwel yr ymerodraeth honno tua'r flwyddyn1200 CC, aeth canolbarth a gorllewin y rhanbarth dan ddominyddiaethPhrygia, a gyrhaeddodd ei huchafbwynt yn yr8fed ganrif CC. Cwncweriwyd de-ddwyrain Asia Leiaf gan yr ymerodraethAsyriaidd tua'r un cyfnod. Syrthiodd Phrygia iLydia yn y6ed ganrif CC, ac yna yn546 CC sefydlodd yr ymerodrPersiaiddCyrus Fawr ei afael ar Asia Leiaf.
Yn333 CC fe'i goresgynnwyd ganAlecsander Fawr oFacedon. Wedi i Alecsander farw rhannwyd y rhanbarth yn gyfres o fân frehiniaethau felPergamum,Cappadocia,Bithynia aPontus yn y gogledd a'r gorllewin tra fu'r de yn faes ymrafael rhwng ySeleuciaid a'rPtolemiaid, olynwyr Alecsander.
Rhwng200 CC a diwedd y ganrif gyntaf CC ymestynnai'rRhufeiniaid eu gafael ar Asia Leiaf ac aeth yr hen deyrnasoedd yn daleithiau Rhufeinig. Yn ddiweddarach roeddynt yn rhan o'r ymerodraeth ddwyreiniol ac ynaBysantiwm.
Ar ôl cael ei goresgyn gan yTyrciaidSeljukaidd yn yr11g a syrthio'n ysglyfaeth i'rMongoliaid yn y13g, cafodd Asia Leiaf ei hymgorffori ynyr Ymerodraeth Otomanaidd yn ystod y14eg a'r15g.