![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymuned Amlwch ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Mechell ![]() |
Cyfesurynnau | 53.410154°N 4.345662°W ![]() |
Cod OS | SH4492 ![]() |
Cod post | LL68 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Tref fach achymuned ynYnys Môn ywAmlwch.[1][2] Saif yng ngogledd yr ynys ar lôn yrA5025 tua 15 milltir i'r gogledd oBorthaethwy, hanner ffordd rhwngCemaes aMoelfre. MaeCaerdydd 229.2km i ffwrdd o Amlwch ac mae Llundain yn 356.8 km. Y ddinas agosaf ydyBangor sy'n 25.5 km i ffwrdd.
Mae enw 'Amlwch' yn cyfeirio at safle harbwr y dref, sefPorth Amlwch, yn deillio o'r Gymraegam 'o gwmpas' allwch (hen air sy'n golygu 'inlet', 'creek' yn debyg i'r gair Gaeleg 'loch') ar gyfer corff o ddŵr.
Tref sy'n gorwedd ar lan y môr yw hi, heb draeth ond gyda chlogwyni arfordirol trawiadol. Maetwristiaeth yn elfen bwysig yn yr economi leol. Ar un adeg roedd yn borthladd eithaf prysur gyda llongau yn hwylio oddi yno iYnys Manaw aLerpwl. Mae nifer o'r tai yn dyddio o'r19g ac yn ychwanegu at awyrgylch y dref.
Yr Arwydd ywpapur bro Benllech a gweddill cylchMynydd Bodafon.
Tyfodd Amlwch yn gyflym yn y18g oherwydd y cloddiocopr arFynydd Parys, y mwyaf o'i fath yn y byd ar un adeg. Erbyn diwedd y ganrif honno roedd gan Amlwch boblogaeth o tua 10,000 gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôlMerthyr Tudful. Dyna pryd yr estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.
Dirywiodd y diwydiant copr lleol ar ganol y 1850au ond parhaodd Amlwch i fod yn ganolfan bwysig i'r diwydiant adeiladu ac atgyweirio llongau a gwaith arall cysylltiedig â'r môr.
Yn 1953 agorwyd gwaith cemegol i dynnu bromin o ddŵr môr ond cafodd ei gau yn 2004. Mae cauatomfa Wylfa, gerllaw, yn debyg o gael effaith andwyol ar yr economi lleol hefyd.
Mae siamber gladdu yn Amlwch o'r enw Barcloddiad y Gawres.
Yngnghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Amlwch (pob oed) (3,789) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Amlwch) (2,234) | 61.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Amlwch) (2462) | 65% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Amlwch) (765) | 45.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Amlwch ·Benllech ·Biwmares ·Caergybi ·Llangefni ·Niwbwrch ·Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw ·Bethel ·Bodedern ·Bodewryd ·Bodffordd ·Bryngwran ·Brynrefail ·Brynsiencyn ·Brynteg ·Caergeiliog ·Capel Coch ·Capel Gwyn ·Carmel ·Carreglefn ·Cemaes ·Cerrigceinwen ·Dwyran ·Y Fali ·Gaerwen ·Glyn Garth ·Gwalchmai ·Heneglwys ·Hermon ·Llanallgo ·Llanbabo ·Llanbedrgoch ·Llandegfan ·Llandyfrydog ·Llanddaniel Fab ·Llanddeusant ·Llanddona ·Llanddyfnan ·Llanedwen ·Llaneilian ·Llanfachraeth ·Llanfaelog ·Llanfaethlu ·Llanfair Pwllgwyngyll ·Llanfair-yn-Neubwll ·Llanfair-yng-Nghornwy ·Llan-faes ·Llanfechell ·Llanfihangel-yn-Nhywyn ·Llanfwrog ·Llangadwaladr ·Llangaffo ·Llangeinwen ·Llangoed ·Llangristiolus ·Llangwyllog ·Llanidan ·Llaniestyn ·Llannerch-y-medd ·Llanrhuddlad ·Llansadwrn ·Llantrisant ·Llanynghenedl ·Maenaddwyn ·Malltraeth ·Marian-glas ·Moelfre ·Nebo ·Pencarnisiog ·Pengorffwysfa ·Penmynydd ·Pentraeth ·Pentre Berw ·Pentrefelin ·Penysarn ·Pontrhydybont ·Porthllechog ·Rhoscolyn ·Rhosmeirch ·Rhosneigr ·Rhostrehwfa ·Rhosybol ·Rhydwyn ·Talwrn ·Trearddur ·Trefor ·Tregele