| Alys | |
|---|---|
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Cymeriad ffuglennol o'r llyfrauAlice's Adventures in Wonderland a'i ddilyniantThrough the Looking-Glass, a ysgrifennwyd ganLewis Carroll, ydyAlice, hefydAlys. Merch ifanc ydy Alys oLoegrOes Fictoria.
Mae'r cymeriad wedi'i seiliedig arAlice Liddell, ffrind plentyn Charles Lutwidge Dodgson (enw go iawn Lewis Carroll) ond dywedodd Dodgson nid oedd ei 'arwres fach' yn seiliedig ar unrhyw plentyn go iawn a'r oedd yn hollol ffuglennol.[1] Portreadwyd Alys fel ferch rhesymegol, weithiau'n bedantig, yn arbennig gyda Humpty Dumpty yn yr ail lyfr. MaeThrough the Looking-Glass yn dweud bod Alys yn saith-ac-hanner oed, ond mae hi'n aeddfed. Mae'r storiAnturiaethau Alys yng Ngwlad Hud yn digwydd ar 4 Mai, penblwydd Alice Liddell. Mae'r storiThrough the Looking-Glass yn digwydd ar 4 Tachwedd, ei hanner-penblwydd (dywedodd Alys yn y llyfr ei bod hi'n "saith ac hanner yn union").
Darlunir Alys yn boblogaidd wisgo ffrog ben-glin-hyd glas golau gyda pinaffor gwyn ar ben. Roedd y ffrog yn felyn yn wreiddiol ynThe Nursery "Alice", y fersiwn cyntafAlice's Adventures in Wonderland i ddefnyddio lliwiau. Yn y darluniauThrough the Looking-Glass, mae Alys yn gwisgo rhuban llydan a, fel adlais i Alys, chaiff rwymynnau gwallt eu henwi 'Alice bands', yn arbennig yn yDU.
Lluniadwyd Alys yn gyntaf yn ddu a gwyn a byddai'r lliwiau yn newid o artist i artist; sut bynnag, yn y gweithiau lliw cynnar John Tenniel, roedd ffrog Alys yn las, roedd amlinell goch ar ei phinaffor gwyn a'r oedd gwallt golau ganddi[2] sy'n y ddelwedd fwyaf enwog Alys heddiw, fel y gwelir yn Disney. Lluniadodd Tenniel Alys mewn dau amrywiolyn, ynThrough the Looking-Glass, mae mwy ryfflau ar binaffor Alys a mae hi'n gwisgo hosanau streipïog sy'n aros â'r ddelwedd Alys hyd heddiw.
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||