Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Altostratus

Oddi ar Wicipedia
Altostratus
MathStratus, mid-level cloud Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1877 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cloudatlas.wmo.int/altostratus-as.html Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cymylau Altostratus dros Hong Kong ym mis Mai

Math o gymylau ywAltostatus.

Disgrifiad

[golygu |golygu cod]

Nid yw'r cymylau hyn fel arfer yn fawr mwy na haenau llwydion sy'n dueddol o dewychu nes bo'rhaul yn graddol ddiflannu wrth i'rawyr dywyllu a llenwi cynglaw. Ceir sawl disgrifiad o'r modd y mae'r haul, neu'rlleuad yn y nos, yn diflannu'n raddol wrth i'r haenau dewychu:

Dywediadau

[golygu |golygu cod]
  • Yr haul (neu'r lleuad yn y nos) yn boddi – glaw cyn bo hir (cyffredin)
  • Yr awyr yn ceulo – glaw yn fuan (Gwynedd)

Weithiau ceir patrwm arbennig i'r haenau Altostratus:

Os bydd 'caws a llath' ar y wybr, glaw yn agos (Llandysul)Neu, ychydig funudau cyn iddi lawio gwelir ffurflau arbennig ar waelod y cymylau:

  • Clytiau tonnog – dyma'r ffurf a elwir yn Altostratus undulatus
  • 'Bronnau' yn crogi o waelod y cwmwl – dyma Altostratus mamma
  • Yr awyr 'yn dorrog' o law neu eira (gogleddCeredigion). Cymylau boliog llawn glaw.

Galeri

[golygu |golygu cod]
  • Altostratus undulatus adeg y wawr.
    Altostratus undulatus adeg y wawr.
  • Altostratus opacus
    Altostratus opacus
  • Altostratus translucidus hefo cumulus humilis oddi dano
    Altostratus translucidus hefo cumulus humilis oddi dano
  • Altostratus translucidus
    Altostratus translucidus

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir iTwm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia ganDefnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf ynLlên Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Altostratus&oldid=10970283"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp