Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Alhambra

Oddi ar Wicipedia
Alhambra
Mathensemble pensaernïol, atyniad twristaidd,palas,palas,gardd, group of monuments Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1238 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolZona Arqueológica de Granada, Alhambra, Generalife and Albayzín, Granada Edit this on Wikidata
SirGranada Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Cyfesurynnau37.17634°N 3.58821°W Edit this on Wikidata
Cod post18009 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolArt of Al-Andalus Edit this on Wikidata
Statws treftadaethHistoric Garden (Spain), Zona Patrimonial, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Bien de Interés Cultural Edit this on Wikidata
Manylion
Ystafell yn y palas gyda golwg ar Gwrt y Llewod

Palas o'r canol oesoedd oedd yn perthyn i frenhinoeddIslamaiddTeyrnas Granada yw'rAlhambra (Arabeg: الحمراء = Al-Ħamrā'; yn llythrennol "y coch"). Saif ar fryn ar ochr dde-ddwyreiniol dinasGranada ynAndalucía,Sbaen.

Daw'r enw o'r lliw coch ar y tir sydd o gwmpas yr Alhambra, sydd hefyd erbyn heddiw wedi lliwio'r muriau eu hunain yn goch, er eu bod wedi eu gwyngalchu yn wreiddiol. Yn ystod yr ymladd rhwng dilynwyr Islam a'r Cristionogion oedd yn ceisio adfeddiannual-Andalus yn nechrau'r13g, encilioddIbn Nasr, sylfaenydd Brenhinllin y Nasrid, i Granada, a dechreuodd adeiladu'r Alhambra presennol.

Datblygwyd y palas dros y canrifoedd nesaf gan frenhinoedd megisYusuf I, Muhammad V, Ismail I ac eraill. Yn1492, gorfodwyd y brenin olaf, Muhammad XII, mwy adnabyddus yn y gorllewin fel "Boabdil", i ildio Granada a'r Alhambra i Fernando II o Aragon ac Isabella o Castilla. Yn ddiweddarach adeiladodd y brenin Carlos V (1516 -1556) balas yn arddull y Dadeni ar y safle.

Rhestrwyd yr Alhambra, gyda'rGeneralife a'rAlbayzín yn Granada, felSafle Treftadaeth y Byd ganUNESCO.

  • Yr Alhambra o'r "Mirador de San Nicolás" ar yr Albaycin, Granada.
    Yr Alhambra o'r "Mirador de San Nicolás" ar yr Albaycin, Granada.
  • Yr Alhambra o'r Generalife (gogledd-ddwyrain)
    Yr Alhambra o'r Generalife (gogledd-ddwyrain)
  • Cynllun Palacio Arabe 1889
    Cynllun Palacio Arabe 1889
  • Alhambra (2010)
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Alhambra&oldid=13466044"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp