Dinas hynafol yng ngogleddSyria ywAleppo (Arabegحلب ['ħalab];Ffrangeg,Alep; hefydHalep neuHaleb). Mae'n brifddinastalaith Aleppo sy'n ymestyn o gwmpas y ddinas am dros 16,000 km² gyda phoblogaeth o 4,393,000. Gall Aleppo hawlio fod yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd, gyda thystiolaeth fod pobl yn byw yno ers tua 11,000 CC. Roedd yn cael ei hadnabod yn yrHenfyd felKhalpe,Khalibon,Beroea (Veroea) (i'rGroegiaid), aHalep (i'rTyrciaid);Alep yw'r enw Ffrangeg. Gorwedd ar safle strategol ar groesffordd bwysig lle cwrdd hen lwybrau masnach rhwngIndia a'rLefant, hanner ffordd rhwngMôr y Canoldir i'r gorllewin acAfon Ewffrates i'r dwyrain; rhedai llwybr arall iAsia Leiaf i'r gogledd aDamascus i'r de. Rhedafon Quweiq (قويق) trwy'r ddinas.
Tyfodd y ddinas hynafol ar y bryniau isel o gwmpas y bryn dominyddol lle codwydCaer Aleppo yn ddiweddarach. Yn yrOesoedd Canol, roedd y gaer anferth honno yn ganolfan bwysig i'rMwslimiaid yn ystod yCroesgadau ac fe'i defnyddiwyd ganSaladin ac eraill fel canolfan. Lleihaodd pwysigrwydd Aleppo fel canolfan fasnachol gyda datblygu llwybr arforolPenrhyn Gobaith Da ac agorCamlas Suez yn ddiweddarach, a effeithiodd ar y fasnach â'r Dwyrain, ac erbyn heddiw mae'n ganolfan allforio cynnyrch amaethyddol yr ardal amgylchynnol;gwenith,cotwm, cnau pistachios,ffrwyth olewydd, adefaid.
Ystyrir henbazaar Aleppo yn un o ryfeddodau'r Dwyrain Canol, gyda rhwydwaith dan do o filltiroedd o strydoedd culion asouks o bob math. Mae Caer Aleppo ynSafle Treftadaeth y Byd ar restrUNESCO. Mae'r ddinas yn enwog yn y bydArabaidd am ei byrth niferus hefyd ac fel canolfan ddiwylliannol unigryw.