Albwm o ddeunyddcomig ywalbwm comedi. Gall fod yn recordiad o actdigrifwr ar ei sefyll, neu'n gasgliad osgetshis,caneuon comig,ymson acymgom, ajôcs.
Mae hanes yr albwm comedi yn dyddio'n ôl i 1897 pan gynhyrchoddEdison Records recordiadau arsilindr o straeon digrif ganCal Stewart. Ym 1913 rhyddhaoddJoe Hayman y recordCohen on the Telephone, act am fewnfudwr Iddewig sy'n ceisio ymdopi â thechnoleg fodern.[1] Roedd albymau comedi yn boblogaidd iawn yn ystodgwrthddiwylliant y 1960au a'r 1970au, a'r sîncomedi amgen yn y 1980au a'r 1990au. Heddiw mae nifer o ddigrifwyr yn rhyddhau ei actiau arDVD yn hytrach nag ar albwm sain.
Yn yr Unol Daleithiau mae'rAcademi Genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau a'r Gwyddorau Recordio yn rhoiGwobr Grammy am yr Albwm Comedi Gorau.