Commandeur des Arts et des Lettres, Officier de la Légion d'honneur, Grand prix de la ville d'Angoulême, Marchog Urdd y Llew Iseldiraidd, Max und Moritz award, French Excellence Award, Oriel Anfarwolion Will Eisner, honorary citizen of Brussels, honorary doctor of Paris 13 University, Q136512331
llofnod
Darlunydd llyfrau comig ac ysgrifennwr sgript oFfrainc oeddAlbert Uderzo (25 Ebrill1927 –24 Mawrth2020)[1]. Adnabyddir ef orau am ei waith ar gyfres comicsAstérix, ond darluniodd gomics eraill yn ogystal, megisOumpah-pah, a oedd hefyd yn waith ar y cyd gydaRené Goscinny.
GanwydAlberto Aleandro Uderzo ynFismes (Marne,Ffrainc), yn fab i Silvio ac Iria, a oedd wedi ymfudo o'rEidal yn ddiweddar cyn ei eni. Daw ei enw o bentref Eidaleg,Oderzo (Uderzo gynt), ble gellir dilyn ei goeden deulu. Fel plentyn, ei uchelgais oedd i ddod yn beiriannydd awyrennau, er roedd ei allu ym maes celf yn amlwg o oedran cynnar.
Cafodd Uderzo ddinasyddiaeth Ffrengig yn 1934, ac yn ystod yrAil Ryfel Byd, gadawoddParis amLydaw tra'n ei arddegau, yno gweithiodd ar fferm a helpu ym musnes dodrefn ei dad. Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd yn bryd dewis lleoliad ar gyfer pentref Asterix, fe adawodd Goscinny y penderfyniad i Uderzo, a oedodd dim cyn dewis Llydaw.
Cychwynnodd Uderzo yrfa llwyddiannus fel arlunydd ym Mharis ar ôl y rhyfel yn 1945, gan greu gweithiau megisFlamberge aClopinard, hen ddyn bychain â un coes a oedd yn ennill dros pob anhawster. Yn 1947-48 fe creodd gomics eraill, megisBelloy acArys Buck.
Yn ystod gweithio a theithio dros y blynyddoedd canlynol, cyfarfodd â René Goscinny yn 1951. Daeth y pâr yn ffrindiau da'n fuan, a penderfynont gweithio â'u gilydd yn 1952 yn swyddfa newydd y cwmniBelgaidd, World Press, ym Mharis. Eu creadigaethau cyntaf oeddOumpah-pah, Jehan Pistolet a Luc Junior.[2][3] Yn 1958, fe addasontOumpah-pah ar gyfer ei gyhoeddi ar ffurf cyfres o stribedi comig yng nghylchgrawnTintin, er, rhedwyd ond hyd 1962.[4] Yn 1959, daeth Goscinny yn olygydd ac Uderzo yn gyfarwyddwr celfyddPilote, menter newydd wedi ei anelu at blant hŷn. Fe gyflwynodd rhifyn cyntaf y cylchgrawn gymeriad Astérix i'r byd Ffrengig, ac roedd yn llwyddiant o'r cychwyn.[2][5] Yn ystod y cyfnod hwn, fe gydweithiodd Uderzo yn ogystal gydaJean-Michel Charlier ar gyfres realistigMichel Tanguy, a ail-enwyd yn ddiweddarach ynLes Aventures de Tanguy et Laverdure.[2]
Roedd Astérix ar ffurf cyfres ynPilote, ond fe gyhoeddwyd yr albwm cyntaf yn 1961, cyhoeddwyd albwmAstérix le gaulois (Asterix y Gâl) fel llyfr unigol. Erbyn 1967, roedd y comig wedi dod mor boblogaidd y penderfynodd y pâr neilltuo eu holl amser i'r gyfres. Wedi marwolaeth cynnar Goscinny yn 1977, fe gariodd Uderzo ymlaen i ysgrifennu a darlunio'r llyfrau ar ei ben ei hun, ond gweithiodd yn arafach, gan gyhoeddi llyfr pob 3-5 mlynedd i gymharu â'r 2 albwm y flwyddyn a gyhoeddwyd ynghyd â Goscinny. Mae'r credyd ar y clawr yn dal i ddweud "Goscinny ac Uderzo".
Cafodd Uderzo ferch,Sylvie Uderzo gyda'i wraig Ada. Yn ôlThe Book of Asterix the Gaul, mae rhai yn dyfalu y seiliodd Uderzo gymeriadau Panacea a Zaza ar Ada a Sylvie, ond roedd Uderzo ei hun yn gwadu hyn.
Cyflwynwyd llyfrLe ciel lui tombe sur la tête (Mae'r nen yn disgyn ar ei ben) er cof am ei frawd, Bruno Uderzo (1920-2004).
Cododd ymryson ynyr Almaen, lle roedd cwmni cyhoeddi Albert Uderzo, Les Éditions Albert René, yn honni fod rhai cwmnioedd technoleg cyfrifiadurol sydd â'u henwau yn orffen â "ix" (nid yn anghyffredin gyda cwmnioedd sy'n gweithio gyda systemUnix) yn niweidio brandiau "Asterix" ac "Obelix".[6]