Mae'r termArabegal Nakba neual Naqba (Arabeg:النكبة), sy'n golygu "Y Catastroffi" neu "Y Drychineb", yn cael ei ddefnyddio gan yPalesteiniaid i gyfeirio at laddfa, symudiad drwy drais affoedigaeth y Palesteiniaid oPalesteina 1947-1948 gan luoedd arfog y gymuned Iddewig fel yrHaganah,Palmach,Irgun aLehi, cyn ac yn ystodRhyfel Palesteina 1948. Gyrrwyd hanner poblogaeth Arabaidd Palesteina (750,000 o bobl) o'u cartrefi a gwrthododd y wladwriaeth Israeli newydd ganiatâd iddynt ddychwelyd. Gwacawyd a dinistriwyd pentrefi cyfan. Meddiannwyd rhai o'r tai gan wladychwyr Iddewig. Codwyd gwladychfeydd Iddewig newydd a choedwigoedd ar safle'r pentrefi a ddiboblogwyd. Mae'r Palesteiniaid a ddadleolwyd a'u teuluoedd bellach yn byw mewngwersylloedd ffoaduriaid ar yLan Orllewinol aLlain Gaza ac yn alltud mewn gwledydd Arabaidd cyffiniol ac ar draws y byd. Cyfeirir ati hefyd fel Ffoedigaeth y Palesteniaid (Arabeg:الهجرة الفلسطينية,al-Hijra al-Filasteeniya).
CeirDiwrnod Nakba i gofio'r digwyddiad ar 15 Mai bob blwyddyn. Yn 2009 gwaharddodd Gweinyddiaeth Addysg Israel y gair "Nakba" o lyfr ysgol i blant ifainc Arabeg.[1] Yn 2011 pasiodd senedd Israel (yKneset) ddeddf sy'n gwahardd cynnal digwyddiadau i gofio'r Nakba.[2]
↑Todorova, Teodora (2013). "Bearing Witness to al Nakba in a Time of Denial". Matar, Dina; Harb, Zahera (eds.). Narrating Conflict in the Middle East: Discourse, Image and Communications Practices in Lebanon and Palestine. London: I.B. Tauris. doi:10.5040/9780755607709.ch-012.ISBN 978-1-78076-102-2.: 248–270.