Agnostigiaeth yw'r cysyniad nad oes modd gwybod os ydyDuw yn bodoli neu beidio. Mae’r gair 'agnosticiaeth' yn dod o'r gairSaesnegagnosticism; gair gwneud o'r gairGroegagnosia = 'anwybodaeth', o'r gwreiddyngnosis neugnostikos sef 'gwybodaeth'.
Er bod sawl unigolyn wedi dal y safbwynt hwnnw trwy hanes, ymddengys mai'r athronyddThomas Huxley a fathodd yr enw (agnosticism) yn1869 i ddisgrifio ei safbwynt. Roedd y rhai o amgylch Huxley naill ai'n bendant bod Duw yn bodoli neu yn bendant bod Duw ddim yn bodoli ond roedd Huxley yn ymresymu bod y wybodaeth hon yn absennol.
Cafodd yr enw ei fabywsiadu ganrhesymolwyr ail hanner y19g er mwyn diffinio eu safle rhwng credu mewn Duw ar y naill law acanffyddiaeth, sy'n gwrthod Duw yn gyfangwbl, ar y llaw arall.
Mae tuedd i agnostig fod yn wybodus iawn mewn materion crefyddol, ac yn aml iawn, fe fyddynt yn cael eu cyhuddo o "hanner credu" mewn Duw a’u bod yn amharod i ymrwymo at eu cred. Fe fydd yr agnostig yn gwadu’r cyhuddiad hwn gan honni nad yw'n bosibl gwybod amdano hyd yn oed os yw'n bodoli. Yn fwy diweddar mae'r term "agnostig" yn cael ei ddefnyddio mewn ystyr llai diffiniedig i gynnwys barn pobl sydd ddim yn gwybod am y byd ysbrydol neu ddim yn poeni amdano o gwbl.