Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

African National Congress

Oddi ar Wicipedia
African National Congress
Enghraifft o:plaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegcenedlaetholdeb Affricanaidd,democratiaeth gymdeithasol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu8 Ionawr 1912 (yn yCalendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadSecretary-General of the African National Congress Edit this on Wikidata
SylfaenyddJohn Langalibalele Dube Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolSocialist International Edit this on Wikidata
PencadlysLuthuli House Edit this on Wikidata
Enw brodorolAfrican National Congress Edit this on Wikidata
GwladwriaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.anc1912.org.za/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0_00 edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Plaid lywodraetholDe Affrica yw'rAfrican National Congress ("Cyngres Genedlaethol Affricanaidd"), ers i reolaeth fwyafrifol gael ei sefydlu ym mis Mai 1994. Derbyniant gefnogaeth wrth gynghrair teir-rhan gydaChynghrair Undebau Llafur De Affrica (COSATU) aPlaid Gomiwnyddol De Affrica (SACP). Diffinia'r blaid ei hun fel "grym disgybledig yr adain chwith". Sefydlwyd y blaid ynBloemfontein ym mis Ionawr 1912 o dan yr enwSouth African Native National Congress (SANNC) er mwyn cynyddu hawliau y bobl dduon yn Ne Affrica. RoeddJohn Dube yn lywydd cyntaf i'r blaid a'r bardd a'r awdurSol Plaatje yn un o'r aelodau cyntaf. Newidiodd y sefydliad ei enw i'r ANC ym 1923 a ffurfiwyd adain filwrol, y Umkhonto we Sizwe (Gwaywffon y Genedl) ym 1961.

Mae'r blaid wedi bod yn rheoli'r wlad ar lefel genedlaethol ers diwedd apartheid ym 1994. Cynyddodd canran y blaid o'r bleidlais yn etholiadau 1999 a chynyddodd ymhellach yn 2004.

MaeCyril Ramaphosa wedi bod yn llywydd y blaid ers 2017.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=African_National_Congress&oldid=11575643"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp