![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 18 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.03333°N 4.55°W ![]() |
Aber | Afon Teifi ![]() |
![]() | |
MaeAfon Cuch (llurguniadSaesneg:Cych) ynafon yn ne-orllewinCymru sy'n ymuno agafon Teifi tua 4 milltir i'r gorllewin oGastell Newydd Emlyn. Mae hi'n dynodi'r ffin rhwng gogleddSir Benfro aSir Gaerfyrddin. Ei hyd yw tua 8 milltir.
Tardda afon Cuch yn y bryniau tua hanner ffordd rhwngCrymych (Sir Benfro) aChynwyl Elfed (Sir Gâr). Mae dwy ffrwd, afon Sylgen ac afon Barddu, yn cyfuno yng Nghwmorgan i ffurfio afon Cuch. Rhed yr afon ar gwrs gogledd-orllewinol yn bennaf. Ar ôl hanner milltir daw ffrwd fechan afon Mamog i mewn o'r dwyrain, gerCapel Iwan. Mae'r afon yn llifo trwy gwm cul coediog rhwng y bryniau gan ffurfio Glyn Cuch (neu Cwm Cuch). Yn ystod ei chwrs trwy'r glyn mae sawl ffrwd arall megis afon Pedran ac afon Dulas, o'r gorllewin, yn ymuno ag afon Cuch. Daw allan o Lyn Cuch iDdyffryn Teifi ger pentref bychanAbercych, lle ceirrhyd hynafol, ac ar ôl tua hanner milltir mae'n ymuno agafon Teifi sy'n llifo iFae Ceredigion ar ôl 6 milltir, gerAberteifi.
Mae gan Lyn Cuch le arbennig ym mytholeg Cymru fel lleoliad helaPwyll Pendefig Dyfed yn y gyntaf oBedair Cainc y Mabinogi:
Yna, wrth hela a'i gŵn yng Nglyn Cuch, mae Pwyll yn cyfarfod agArawn, breninAnnwn, ac mae cylch chwedlau'r Pedair Cainc yn dechrau.
Yn yrOesoedd Canol, dynodai afon Cuch y ffin rhwng daugwmwdcantrefEmlyn, sefEmlyn Uwch Cuch acEmlyn Is Cuch.